Archwiliadau safle
16.—(1) Os yw cais i gael ei benderfynu heb gynnal gwrandawiad nac ymchwiliad, caiff yr awdurdod sy'n penderfynu, ar unrhyw adeg cyn penderfynu'r cais, benodi neu neilltuo arolygydd i archwilio safle'r gwaith arfaethedig ac i ddarparu adroddiad.
(2) Caiff arolygydd sy'n cynnal gwrandawiad neu archwiliad archwilio safle'r gwaith arfaethedig.
(3) Os yw arolygydd yn bwriadu gwneud archwiliad safle o dan baragraff (1) neu (2), rhaid i'r arolygydd ofyn i'r ceisydd a yw'r ceisydd yn dymuno bod yn bresennol, neu gael ei gynrychioli, yn yr archwiliad safle.
(4) Os yw'r ceisydd yn datgan ei fod yn dymuno bod yn bresennol neu gael ei gynrychioli, rhaid i'r arolygydd roi rhybudd rhesymol i'r ceisydd, o ddyddiad ac amser yr archwiliad, a rhoi cyfle i'r ceisydd, neu gynrychiolydd y ceisydd, fod yn bresennol.
(5) Nid yw'n ofynnol bod arolygydd yn gohirio archwiliad os nad yw'r ceisydd neu gynrychiolydd y ceisydd yn bresennol ar yr adeg benodedig.
