ATODLEN 2Gofynion Statws Athro Cymwysedig

1.  Personau sydd—

(a)yn dal gradd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol a ddyfarnwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu radd neu gymhwyster arall cyfatebol a ddyfarnwyd gan sefydliad estron;

(b)wedi cwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon yn llwyddiannus mewn sefydliad achrededig yng Nghymru;

(c)wedi gwneud cyfnod o brofiad addysgu ymarferol at ddibenion y cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon hwnnw—

(i)yn gyfan gwbl neu'n bennaf mewn ysgol neu sefydliad addysg arall (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion) yng Nghymru yr addysgir Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ynddi neu ynddo mewn perthynas â'r cyfnod sylfaen, neu'r ail gyfnod allweddol, y trydydd cyfnod allweddol neu'r pedwerydd cyfnod allweddol fel y bo'n briodol i'r ysgol neu'r sefydliad; a

(ii)lle y mae'r profiad o addysgu ymarferol yn yr ysgol neu'r sefydliad y cyfeirir atynt ym mharagraff (i) yn cyfateb ac yn briodol i'r cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon hwnnw; a

(ch)wedi eu hasesu gan sefydliad achrededig eu bod yn bodloni'r safonau penodedig.