xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliadau 5 a 6

ATODLEN 2Gofynion Statws Athro Cymwysedig

1.  Personau sydd—

(a)yn dal gradd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol a ddyfarnwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu radd neu gymhwyster arall cyfatebol a ddyfarnwyd gan sefydliad estron;

(b)wedi cwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon yn llwyddiannus mewn sefydliad achrededig yng Nghymru;

(c)wedi gwneud cyfnod o brofiad addysgu ymarferol at ddibenion y cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon hwnnw—

(i)yn gyfan gwbl neu'n bennaf mewn ysgol neu sefydliad addysg arall (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion) yng Nghymru yr addysgir Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ynddi neu ynddo mewn perthynas â'r cyfnod sylfaen, neu'r ail gyfnod allweddol, y trydydd cyfnod allweddol neu'r pedwerydd cyfnod allweddol fel y bo'n briodol i'r ysgol neu'r sefydliad; a

(ii)lle y mae'r profiad o addysgu ymarferol yn yr ysgol neu'r sefydliad y cyfeirir atynt ym mharagraff (i) yn cyfateb ac yn briodol i'r cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon hwnnw; a

(ch)wedi eu hasesu gan sefydliad achrededig eu bod yn bodloni'r safonau penodedig.

2.  Personau sydd—

(a)wedi cwblhau cyfnod o hyfforddiant ar gynllun hyfforddiant athrawon ar sail cyflogaeth neu wedi bodloni gofynion y cynllun hwnnw fel arall; a

(b)wedi eu hasesu gan sefydliad achrededig eu bod yn bodloni'r safonau penodedig.

3.  Personau sydd wedi bodloni'r gofynion am dderbyn hysbysiad ysgrifenedig eu bod yn athrawon cymwysedig o dan Reoliadau 1982, Rheoliadau 1989, Rheoliadau 1993, Rheoliadau 1999 neu Reoliadau 2004, a'r unig reswm pam nad ydynt yn athrawon cymwysedig yw am nad ydynt wedi derbyn yr hysbysiad hwnnw.

4.  Personau sydd â'r hawl, mewn perthynas â'r alwedigaeth fel athrawon ysgol, i ymarfer yn y Deyrnas Unedig yn unol â Rhan 2 o Reoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2007(1), a Phenodau 1, 2 a 4 o Ran 3 iddynt.

5.  Personau sydd wedi cwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol yn llwyddiannus mewn sefydliad addysgol yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon.

6.  Personau sydd wedi eu cofrestru'n llawn fel athrawon addysg gynradd neu uwchradd gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.

7.  Personau sydd—

(a)wedi eu cofrestru fel athrawon cymwysedig gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol Gogledd Iwerddon; a

(b)wedi gwneud cyfnod o brofiad addysgu ymarferol y mae ei gyfanswm yn drigain niwrnod o leiaf mewn sefydliad addysgol yng Ngogledd Iwerddon.

8.  Personau sydd wedi cwblhau dwy flwyddyn ysgol o wasanaeth llawnamser, yn llwyddiannus fel athrawon sy'n drwyddedig gan Adran Addysg Taleithiau Guernsey, neu gyfnod cyfatebol, os gwnaed y gwasanaeth yn rhan-amser, a'r hyfforddiant a bennir yn y drwydded.

9.  Personau sydd—

(a)wedi cwblhau, yn llwyddiannus, ddim llai na blwyddyn ysgol o wasanaeth llawnamser, fel athrawon sy'n drwyddedig gan Adran Addysg Taleithiau Guernsey, a'r hyfforddiant a bennir yn y drwydded; a

(b)cyn dyddiad cychwyn y drwydded, wedi eu cyflogi am ddim llai na dwy flynedd fel—

(i)athrawon neu ddarlithwyr mewn ysgol annibynnol (gan gynnwys coleg dinasol neu academi) neu sefydliad neu brifysgol yn y Deyrnas Unedig;

(ii)hyfforddwyr neu swyddogion addysg yn Lluoedd Arfog y Goron;

(iii)hyfforddwyr o dan—

(a2)paragraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 1993;

(b2)paragraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Lloegr) 1999(2);

(c2)paragraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999;

(ch2)paragraff 4 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Lloegr) 2003(3); neu

(d2)paragraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004(4); neu

(iv)person sydd â chymwysterau arbennig neu brofiad arbennig o dan baragraff 3 o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2010(5),

a heb gael eu diswyddo ar unrhyw sail ac eithrio dileu swydd.

10.  Personau sydd—

(a)wedi cwblhau yn llwyddiannus ddim llai nag un tymor ysgol o wasanaeth fel athrawon sy'n drwyddedig gan Adran Addysg Taleithiau Guernsey, a'r hyfforddiant a gynigir yn yr argymhelliad am drwydded;

(b)wedi cwblhau'n llwyddiannus, cyn dyddiad cychwyn y drwydded, naill ai—

(i)cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol a oedd yn para o leiaf dair blynedd, mewn sefydliad addysgol y tu allan i Gymru a Lloegr; neu

(ii)cwrs gradd gyntaf a chwrs ôl radd hyfforddiant cychwynnol athrawon ysgol mewn sefydliad o'r fath (boed hynny yn yr un sefydliad ai peidio); ac

(c)wedi bod yn gyflogedig am ddim llai na blwyddyn fel athrawon neu ddarlithwyr mewn ysgol, ysgol annibynnol (gan gynnwys coleg dinasol neu academi), sefydliad neu brifysgol neu sefydliad addysgol arall naill ai yng Nghymru neu Loegr neu mewn man arall a heb gael eu diswyddo ar unrhyw sail ac eithrio dileu swydd.

11.  Personau sydd—

(a)yn dal gradd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol a ddyfarnwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu radd neu gymhwyster arall cyfatebol a ddyfarnwyd gan sefydliad estron;

(b)wedi cwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon, yn llwyddiannus mewn sefydliad achrededig yn Lloegr;

(c)wedi gwneud cyfnod o brofiad addysgu ymarferol at ddibenion y cwrs hyfforddiant cychwynnol athrawon hwnnw yn gyfan gwbl neu'n bennaf mewn ysgol, coleg dinasol, academi, ysgol annibynnol neu sefydliad arall (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion) yn Lloegr, neu mewn ysgol a weinyddir gan Addysg Plant y Lluoedd Arfog(6);

(ch)wedi eu hasesu gan y sefydliad yn is-baragraff (b) ac yn bodloni'r safonau penodedig yn Lloegr; ac

(d)yn athrawon cymwysedig yn rhinwedd rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Lloegr o dan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002.

12.  Personau sydd—

(a)yn dal gradd gyntaf neu gymhwyster cyfatebol a ddyfarnwyd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu radd neu gymhwyster arall cyfatebol a ddyfarnwyd gan sefydliad estron;

(b)wedi eu hasesu gan sefydliad achrededig yn Lloegr a'u bod wedi bodloni'r meini prawf hynny a gaiff eu pennu o dro i dro gan yr Ysgrifennydd Gwladol;

(c)wedi gwneud cyfnod o brofiad addysgu ymarferol fel bod y person yn cael ei asesu gan y sefydliad yn is-baragraff (b) a'i fod yn bodloni'r safonau penodedig yn Lloegr; a

(ch)yn athrawon cymwysedig yn rhinwedd rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Lloegr o dan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002.

13.  Personau sydd—

(a)wedi cwblhau cyfnod o hyfforddiant yn llwyddiannus ar gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth yn Lloegr;

(b)wedi eu hasesu ac wedi bodloni'r safonau penodedig yn Lloegr; ac

(c)yn athrawon cymwysedig yn rhinwedd rheoliadau a wnaed mewn perthynas â Lloegr o dan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002.

14.  Personau sydd yn athrawon cymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau 2004.

(2)

O.S. 1999/2166, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/2704, 2001/1391, 2001/2896, 2001/3737, 2002/1434 a 2003/107. Dirymwyd O.S. 1999/2166 yn rhannol gan O.S. 2003/1662 gyda'r darpariaethau a oedd ar ôl yn cael eu dirymu gan O.S. 2003/3139.

(6)

Asiantaeth a berthyn i'r Weinyddiaeth Amddiffyn yw Addysg Plant y Lluoedd Arfog.