2012 Rhif 684 (Cy.92)
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol)(Diwygio)(Cymru) 2012
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 128, 129, a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2012.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Rheoliadau Optegol” (“the Optical Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 19972.
Diwygio rheoliad 19 o'r Rheoliadau Optegol2
Diwygir Rheoliad 19 o'r Rheoliadau Optegol (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio) fel a ganlyn—
a
ym mharagraff (1)(b), yn lle “£52.90” rhodder “£54.20”; a
b
ym mharagraff (3), yn lle “£13.70” rhodder “£14.00”.
Diwygio'r Atodlenni i'r Rheoliadau Optegol3
1
Diwygir Atodlenni 1 i 3 i'r Rheoliadau Optegol yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
2
Yn Atodlen 1 (codau llythrennau a wynebwerthoedd talebau — cyflenwi ac ailosod), yng ngholofn (3) o'r tabl (wynebwerth taleb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn (1) o'r tabl isod rhodder y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn (2) o'r tabl isod:
(1) | (2) |
---|---|
Swm blaenorol | Swm newydd |
£36.20 | £37.10 |
£55.10 | £56.40 |
£80.60 | £82.60 |
£182.00 | £186.50 |
£62.70 | £64.20 |
£79.70 | £81.60 |
£103.30 | £105.80 |
£200.10 | £205.10 |
£186.40 | £191.00 |
£52.90 | £54.20 |
3
Yn Atodlen 2 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectolau bach a sbectolau arbennig a theclynnau cymhleth)—
a
ym mharagraff 1(1)(a), yn lle “£11.80” rhodder “£12.10;
b
ym mharagraff (1)(1)(b), yn lle “£14.20” rhodder “£14.60 ”;
c
ym mharagraff 1(1)(c), yn lle “£4.00” rhodder “£4.10 ”;
d
ym mharagraff 1(1)(d), yn lle “£4.50” rhodder “£4.60 ”;
e
ym mharagraff 1(1)(e), yn lle “£59.70”, “£52.90” a “£28.60” rhodder “£61.20”, “£54.20” a “£29.30” yn eu trefn;
f
ym mharagraff 1(1)(g), yn lle “£59.70” rhodder “£61.20 ”;
g
ym mharagraff 2(a), yn lle “£13.70” rhodder “£14.00 ”; a
h
ym mharagraff 2(b), yn lle “£34.60” rhodder “£35.50 ”.
4
Yn lle Atodlen 3 (gwerthoedd talebau — trwsio), rhodder yr Atodlen 3 a bennir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Darpariaeth Drosiannol4
Nid yw'r symiau newydd a amnewidir gan reoliadau 2 a 3 yn gymwys ac eithrio mewn perthynas â thaleb a dderbynnir neu a ddefnyddir yn unol â rheoliad 12 neu reoliad 17 o'r Rheoliadau Optegol ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012.
ATODLENATODLEN 3 I'R RHEOLIADAU OPTEGOL FEL Y'I HAMNEWIDIR GAN Y RHEOLIADAU HYN
SCHEDULE 3VOUCHER VALUES REPAIR
(1)
(2)
Nature of Repair
Letter of Codes — Values
A
B
C
D
E
F
G
H
I
£
£
£
£
£
£
£
£
£
Repair or replacement of one lens
11.55
21.20
34.30
86.25
25.10
33.80
45.90
95.55
88.50
Repair or replacement of two lenses
23.10
42.40
68.60
172.50
50.20
67.60
91.80
191.10
177.00
Repair or replacement of:
The front of a frame
11.90
11.90
11.90
11.90
11.90
11.90
11.90
11.90
11.90
A side of a frame
7.05
7.05
7.05
7.05
7.05
7.05
7.05
7.05
7.05
The whole frame
14.00
14.00
14.00
14.00
14.00
14.00
14.00
14.00
14.00
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)