18.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 86(7) o Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn gwrthodiad gan yr ATLl i gyflwyno hysbysiad esemptio dros dro).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r hysbysiad i'r ATLl o dan adran 86(1) o Ddeddf 2004; a
(b)copi o hysbysiad yr ATLl o'i benderfyniad o dan adran 86(6) o Ddeddf 2004.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.
19.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 96(5) o Ddeddf 2004 (cais gan ATLl neu feddiannydd am orchymyn ad-dalu rhent).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)pan wneir y cais gan yr ATLl—
(i)copi o'r hysbysiad o'r achos arfaethedig o dan adran 96(7) o Ddeddf 2004;
(ii)copi o unrhyw sylwadau a gafwyd mewn perthynas â'r hysbysiad;
(iii)naill ai—
(aa)datganiad sy'n cynnwys y manylion y dibynnir arnynt wrth wneud yr honiad bod tramgwydd wedi ei chyflawni o dan adran 95(1) o Ddeddf 2004; neu
(bb)pan fo'r ATLl yn dibynnu ar ddarpariaethau adran 97 o Ddeddf 2004, prawf bod y person priodol wedi'i gael yn euog o dramgwydd o dan adran 95(1) o Ddeddf 2004; a
(iv)dogfen sy'n dangos y budd-dal tai a dalwyd gan yr ATLl mewn cysylltiad â meddiant y fangre yn ystod y cyfnod pryd yr honnir bod tramgwydd o'r fath wedi ei chyflawni;
(b)pan wneir y cais gan feddiannydd—
(i)tystiolaeth bod y person priodol wedi ei gael yn euog o dramgwydd o dan adran 95(1) o Ddeddf 2004 neu y gwnaed yn ofynnol drwy orchymyn ad-dalu rhent ei fod yn gwneud taliad mewn perthynas â budd-dal tai; a
(ii)tystiolaeth fod y meddiannydd wedi talu taliadau cyfnodol mewn perthynas â meddiant o'r fangre yn ystod y cyfnod pryd yr honnir bod tramgwydd o'r fath yn cael ei chyflawni.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r person priodol.
20.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 31 o Atodlen 5 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad gan ATLl i ganiatáu, neu wrthod caniatáu, trwydded o dan Ran 3, neu sy'n ymwneud â thelerau trwydded).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)pan fo'r cais yn ymwneud â chaniatáu trwydded neu â thelerau trwydded —
(i)copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 1 a 7 o Atodlen 5 i Ddeddf 2004, ac o unrhyw hysbysiad o dan baragraff 3 o'r Atodlen honno; a
(ii)copi o'r drwydded; a
(b)pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ganiatáu trwydded, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 5 ac 8 o'r Atodlen honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.
21.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 32(1) o dan Atodlen 5 i Ddeddf 2004 (apêl gan ddeiliad trwydded neu berson perthnasol yn erbyn penderfyniad gan ATLl ynglŷn ag amrywio neu ddirymu trwydded).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i amrywio trwydded, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 14 ac 16 o Atodlen 5 i Ddeddf 2004;
(b)pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i amrywio trwydded, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 19 a 21 o'r Atodlen honno;
(c)pan fo'r cais yn ymwneud â phenderfyniad i ddirymu trwydded, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 22 a 24 o'r Atodlen honno;
(ch)pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ddirymu trwydded, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 26 a 28 o'r Atodlen honno; a
(d)ym mhob achos, copi o'r drwydded.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.