35.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 1(7) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (cais gan ATLl am orchymyn bod GRhAG interim i barhau mewn grym hyd nes penderfynir apêl o dan baragraff 26 o'r Atodlen honno).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r GRhAG interim; a
(b)copi o'r hysbysiad o apêl o dan baragraff 26 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 yn erbyn gwneud GRhAG interim.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ceisydd a wnaeth yr apêl berthnasol.