16.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 31(1) o Atodlen 5 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i ganiatáu, neu wrthod caniatáu, trwydded o dan Ran 2 o Ddeddf 2004, neu yn erbyn unrhyw un o delerau'r drwydded).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)pan fo'r cais yn ymwneud â chaniatáu trwydded neu â thelerau trwydded—
(i)copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 1 a 7 o Atodlen 5 i Ddeddf 2004, ac o unrhyw hysbysiad o dan baragraff 3 o'r Atodlen honno; a
(ii)copi o'r drwydded; a
(b)pan fo'r cais yn ymwneud â gwrthodiad i ganiatáu trwydded, copi o hysbysiadau'r ATLl o dan baragraffau 5 ac 8 o'r Atodlen honno.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.