1.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 10(1) o Atodlen 1 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn hysbysiad gwella) ac eithrio cais y cyfeirir ato ym mharagraff 2.
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r hysbysiad gwella (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b)y datganiad o resymau; ac
(c)os sail y cais, neu un o'i seiliau, yw mai un o'r ffyrdd o weithredu a grybwyllir ym mharagraff 12(2) o Atodlen 1 i Ddeddf 2004 yw'r ffordd orau o weithredu ynglŷn â'r perygl, datganiad yn nodi beth yw'r ffordd honno o weithredu, ynghyd â rhesymau'r ceisydd dros ystyried mai honno yw'r ffordd orau o weithredu.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.