Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012

Atebolrwydd i dalu ffi a hepgor ffioedd

49.—(1Y ceisydd sy'n atebol i dalu unrhyw ffi sy'n daladwy o dan reoliad 45, 46 neu 47.

(2Nid oes ffi yn daladwy o dan reoliad 45, 46 neu 47 os yw'r ceisydd neu bartner y person hwnnw, ar y dyddiad y gwneir y cais, yn cael—

(a)y naill neu'r llall o'r budd-daliadau canlynol o dan Ran 7 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(1)

(i)cymhorthdal incwm; neu

(ii)budd-dal tai;

(b)lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm, o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(2);

(c)credyd treth gwaith o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 2002(3) y mae paragraff (3) yn gymwys iddo;

(ch)credyd gwarant o dan Ddeddf Credyd Pensiynau'r Wladwriaeth 2002(4);

(d)lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm sy'n daladwy o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007(5).

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys—

(a)naill ai—

(i)pan fo elfen anabledd neu elfen anabledd difrifol (neu'r ddau)(6) yn y credyd treth gwaith y mae'r person, neu bartner y person, yn ei gael; neu

(ii)pan fo'r person neu bartner y person hefyd yn cael credyd treth plant(7); a

(b)pan fo'r incwm blynyddol gros a gymerir i ystyriaeth ar gyfer cyfrifo'r credyd treth gwaith yn £16,190 neu lai.

(4Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 50, ystyr “partner” (“partner”), mewn perthynas â pherson, yw—

(a)pan fo'r person yn aelod o gwpl, yr aelod arall o'r cwpl hwnnw; neu

(b)pan fo'r person yn briod mewn priodas amlbriod(8) â dau neu ragor o aelodau o aelwyd, unrhyw aelod o'r fath.

(5Ym mharagraff (4), ystyr “cwpl” (“couple”) yw—

(a)dyn a menyw sy'n briod â'i gilydd ac yn aelodau o'r un aelwyd;

(b)dyn a menyw nad ydynt yn briod â'i gilydd ond sy'n byw gyda'i gilydd fel gŵr a gwraig;

(c)dau berson o'r un rhyw sy'n bartneriaid sifil i'w gilydd ac yn aelodau o'r un aelwyd; neu

(ch)dau berson o'r un rhyw nad ydynt yn bartneriaid sifil i'w gilydd ond sy'n byw gyda'i gilydd fel pe baent yn bartneriaid sifil,

ac at ddibenion is-baragraff (ch), rhaid ystyried bod dau berson o'r un rhyw yn byw gyda'i gilydd fel pe baent yn bartneriaid sifil pe byddid yn ystyried, ond dim ond pe byddid yn ystyried, eu bod yn byw gyda'i gilydd fel gŵr a gwraig, pe baent, yn hytrach, yn ddau berson o wahanol ryw.

(1)

1992 p.4. Diwygiwyd Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 gan Ddeddf Credydau Treth 2002 (p.21), adran 60 ac Atodlen 6. Gwnaed diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(2)

1995 p.18. Diwygiwyd Deddf Ceiswyr Gwaith 1995 gan Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynwyr 1999 (p.30), adrannau 59 ac 88 ac Atodlenni 7 a 13.

(6)

Gweler adran 11(3), (4) a (6) o Ddeddf Credydau Treth 2002.

(7)

Gweler adran 8 o Ddeddf Credydau Treth 2002.

(8)

Ystyr “priodas amlbriod” yw unrhyw briodas lle yn ystod bodolaeth y briodas y mae parti iddi yn briod â mwy nag un person a chynhaliwyd y seremoni briodas o dan gyfraith gwlad oedd yn caniatáu amlbriodas.