xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
47.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) a rheoliad 49(2), mae ffi o £150 yn daladwy am gais i dribiwnlys o dan baragraff 28(1)(h) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 (cymdeithas preswylwyr gymwys i gael ei chydnabod gan berchennog safle a ddiogelir).
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) a rheoliad 49(2), mae ffi yn daladwy am gais i dribiwnlys o dan ddarpariaethau canlynol Deddf 1983—
(a)adran 2(2) (telerau ynglŷn â materion a grybwyllir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983 yn oblygedig mewn cytundeb);
(b)adran 2(3) (amrywio neu ddileu telerau datganedig mewn cytundeb);
(c)adran 4 (penderfynu unrhyw gwestiwn sy'n codi o dan Ddeddf 1983 neu unrhyw gytundeb y mae Deddf 1983 yn gymwys iddo);
(ch)paragraffau 4, 5 neu 5A(2) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 (terfynu gan y perchennog);
(d)paragraff 10(1) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 (adleoli cartref symudol).
(3) Y ffi sy'n daladwy am bob cais y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yw—
(a)pan fo'r cais yn cynnwys un cyfeiriad, £150;
(b)pan fo'r cais yn cynnwys dau gyfeiriad, £200;
(c)pan fo'r cais yn cynnwys tri neu bedwar cyfeiriad, £400;
(ch)pan fo'r cais yn cynnwys pum cyfeiriad neu ragor, £500.
(4) At ddibenion paragraff (3), y nifer o gyfeiriadau sy'n gynwysedig mewn cais yw—
(a)yn achos cais a wneir mewn perthynas ag un llain neu gartref symudol, y nifer o ddarpariaethau o Ddeddf 1983 y mae'r cais hwnnw'n ymwneud â hwy; a
(b)yn achos cais a wneir mewn perthynas â mwy nag un llain neu gartref symudol, y nifer o leiniau neu gartrefi symudol y mae'r cais yn ymwneud â hwy.
(5) Nid oes ffi yn daladwy i dribiwnlys mewn perthynas â chais a wnaed o dan Ddeddf 1983 ac sydd wedi ei drosglwyddo o lys i dribiwnlys.