19.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol bod parti'n cyflenwi i'r tribiwnlys unrhyw wybodaeth neu ddogfen y mae o fewn pŵer y parti hwnnw i'w cyflenwi, ac a bennir, neu sydd o ddisgrifiad a bennir, yn y gorchymyn.
(2) Caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol bod parti'n cyflenwi i barti arall neu i berson â buddiant gopïau o unrhyw ddogfennau a gyflenwyd, neu sydd i'w cyflenwi, i'r tribiwnlys o dan baragraff (1).
(3) Rhaid i barti sy'n ddarostyngedig i orchymyn a wnaed o dan baragraff (1) neu (2) ddarparu'r cyfryw wybodaeth, dogfennau neu gopïau erbyn pa bynnag amser a bennir yn y gorchymyn neu a benderfynir yn unol â'r gorchymyn.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn bresennol mewn gwrandawiad llafar, i roi tystiolaeth ac i ddangos unrhyw ddogfennau a bennir yn y gorchymyn, neu sydd o ddisgrifiad a bennir yn y gorchymyn, ac sydd o fewn pŵer y person hwnnw i'w dangos.
(5) Nid yw paragraffau (1) a (4) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddogfen na ellid gorfodi person i'w dangos mewn treial o achos mewn llys barn yng Nghymru a Lloegr.
(6) Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel wneud gorchymyn o dan baragraff (1), (2) neu (4) sydd—
(a)yn rhagarweiniol i wrandawiad llafar; neu
(b)yn rhagarweiniol i benderfyniad, neu'n gysylltiedig â phenderfyniad.