Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012

Aelodau'r panel addysg

9.  Ni cheir penodi person yn aelod o'r panel addysg oni fodlonir Gweinidogion Cymru—

(a)nad yw'r person yn gymwys i'w benodi'n Gadeirydd; a

(b)bod gan y person wybodaeth a phrofiad cyfredol o blant sydd ag—

(i)anghenion addysgol arbennig; neu

(ii)anableddau; neu

(iii)pan fo'n ofynnol, y ddau.