- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
77.—(1) Ni chaiff afreoleidd-dra, sy'n tarddu o fethiant i gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o'r Rheoliadau hyn, o gyfarwyddyd ymarfer neu o unrhyw gyfarwyddyd gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys cyn i'r panel tribiwnlys gyrraedd ei benderfyniad beri, yn ei hunan, bod yr achos yn ddi-rym.
(2) Os daw unrhyw afreoleidd-dra o'r fath i sylw'r panel tribiwnlys, caiff y panel tribiwnlys, os tybia y gallai unrhyw berson fod wedi ei ragfarnu gan yr afreoleidd-dra, roi pa bynnag gyfarwyddiadau a ystyria'n gyfiawn cyn cyrraedd ei benderfyniad i gywiro'r afreoleidd-dra.
(3) Caiff y Cadeirydd neu'r Llywydd (yn ôl fel y digwydd), ar unrhyw adeg, gywiro camgymeriadau clerigol mewn unrhyw ddogfen sy'n cofnodi cyfarwyddyd neu benderfyniad y panel tribiwnlys neu gyfarwyddyd neu benderfyniad y Llywydd ac a baratowyd gan neu ar ran y Tribiwnlys, neu wallau mewn dogfennau o'r fath a achoswyd gan lithriadau neu hepgorion damweiniol, drwy gyfrwng tystysgrif a lofnodir gan y Cadeirydd neu'r Llywydd.
(4) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, anfon copi at bob parti o unrhyw ddogfen gywiredig sy'n cynnwys rhesymau dros benderfyniad y panel tribiwnlys.
(5) Pan fo person wedi penodi cynrychiolydd yn unol â rheoliad 18, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys (er gwaethaf rheoliad 15(11)(a)) anfon copi o'r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (4) at y person yn ogystal ag at y cynrychiolydd.
(6) Pan fo'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn bod Cadeirydd yn llofnodi dogfen, ond na all y Cadeirydd wneud hynny oherwydd marwolaeth neu analluedd, rhaid i aelodau eraill y panel tribiwnlys lofnodi'r ddogfen ac ardystio bod y Cadeirydd yn analluog i'w llofnodi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: