73.—(1) Os bydd farw, neu os â'n analluog, aelod o'r panel tribiwnlys ac eithrio'r Cadeirydd, neu os yw person yn peidio â bod yn aelod o'r panel addysg, yn dilyn penderfyniad o'r panel tribiwnlys, caiff y ddau aelod arall ymgymryd â swyddogaethau'r panel tribiwnlys mewn perthynas ag unrhyw adolygiad o benderfyniad.
(2) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i banel tribiwnlys—
(a)a gyfansoddir o ddau aelod yn unol â rheoliad 45(5);
(b)yr awdurdodwyd unrhyw berson i weithredu yn lle ei Gadeirydd yn unol â rheoliad 72(4).