RHAN CHAMRYWIOL

Gorchmynion ar gyfer costau a threuliau

71.—(1Fel rheol, rhaid i Lywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos beidio â gwneud gorchymyn mewn perthynas â chostau a threuliau, ond, yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff wneud gorchymyn o'r fath—

(a)yn erbyn parti pan fo'r Llywydd neu'r Cadeirydd o'r farn bod y parti wedi bod yn gyfrifol am weithred neu anwaith amhriodol, afresymol neu esgeulus, neu am unrhyw fethiant i gydymffurfio â chyfarwyddyd, neu am unrhyw oedi y gellid, gyda diwydrwydd, fod wedi ei osgoi, neu, fod ymddygiad y parti, wrth wneud neu wrthwynebu'r apêl neu'r hawliad, wedi bod yn afresymol;

(b)yn erbyn cynrychiolydd os yw'r Llywydd neu'r Cadeirydd o'r farn bod y cynrychiolydd yn gyfrifol am weithred neu anwaith amhriodol, afresymol neu esgeulus, neu am unrhyw fethiant i gydymffurfio â chyfarwyddyd, neu am unrhyw oedi y gellid, gyda diwydrwydd, fod wedi ei osgoi;

(c)yn erbyn parti a fethodd â bod yn bresennol neu gael ei gynrychioli mewn gwrandawiad yr hysbyswyd y parti hwnnw ohono yn briodol;

(ch)yn erbyn yr awdurdod lleol neu gorff cyfrifol a fethodd â chyflwyno datganiad achos o dan reoliad 21;

(d)yn erbyn yr awdurdod lleol neu gorff cyfrifol os yw'r Llywydd neu'r Cadeirydd o'r farn bod y penderfyniad a herir yn afresymol.

(2Ceir gwneud unrhyw orchymyn mewn perthynas â chostau a threuliau—

(a)mewn perthynas ag unrhyw gostau a threuliau a achoswyd, neu unrhyw lwfansau a dalwyd; neu

(b)mewn perthynas â'r cyfan, neu unrhyw ran, o unrhyw lwfans (ac eithrio lwfansau a delir i aelodau o'r Tribiwnlys) a delir gan Weinidogion Cymru i unrhyw berson at ddibenion, neu mewn cysylltiad â phresenoldeb y person hwnnw mewn gwrandawiad Tribiwnlys.

(3Ceir gwneud gorchymyn ar gyfer costau ar gais parti neu ar gymhelliad y Llywydd neu'r Cadeirydd ei hunan.

(4Rhaid i barti sy'n gwneud cais am orchymyn o dan baragraff (3)—

(a)cyflwyno cais ysgrifenedig a rhestr o'r costau a hawlir i Ysgrifennydd y Tribiwnlys; a

(b)cyflwyno copi o'r cais a'r rhestr o gostau i'r person y bwriedir gwneud y gorchymyn yn ei erbyn.

(5Ceir gwneud cais am orchymyn o dan baragraff (3) ar unrhyw adeg yn ystod yr apêl neu'r hawliad ond ni cheir ei wneud yn hwyrach nag 28 diwrnod ar ôl y dyddiad—

(a)pan ddyroddwyd yr hysbysiad gan y panel tribiwnlys a oedd yn cofnodi'r penderfyniad a oedd yn penderfynu'n derfynol ar bob mater yn yr apêl neu'r hawliad;

(b)ar ôl tynnu'n ôl yr apêl neu'r hawliad, pan wnaed gorchymyn gan y panel tribiwnlys yn gwrthod yr apêl neu'r hawliad;

(c)yn dilyn ildiad yr awdurdod lleol i'r apêl, pan ddyroddwyd yr hysbysiad o benderfyniad gan y panel tribiwnlys.

(6Yn achos cais am orchymyn o dan baragraff (3)—

(a)rhaid i'r Llywydd neu'r Cadeirydd ei wrthod os yw'r parti yn gofyn i'r Tribiwnlys ystyried mater sydd y tu allan i'w bwerau;

(b)caiff y Llywydd neu'r Cadeirydd ei wrthod yn gyfan gwbl neu'n rhannol os, ym marn y Llywydd neu'r Cadeirydd, nad oes siawns resymol y gall y cyfan neu'r rhan ohono lwyddo.

(7Oni wrthodir cais am orchymyn o dan baragraff (6), rhaid ei benderfynu ar ôl rhoi cyfle i'r parti a'r person y bwriedir gwneud y gorchymyn yn ei erbyn gael eu clywed gan y Llywydd neu'r Cadeirydd.

(8Os gwneir gorchymyn o dan baragraff (3), caiff y Llywydd neu'r Cadeirydd roi cyfarwyddiadau y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy cyn neu yn ystod y gwrandawiad costau.

(9Os digwydd i barti fethu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a roddwyd o dan baragraff (8), caiff y Llywydd neu'r Cadeirydd gymryd y ffaith honno i ystyriaeth wrth benderfynu pa un a wneir gorchymyn ar gyfer costau ai peidio.

(10Caiff gorchymyn o dan baragraff (3) ei gwneud yn ofynnol bod y parti neu'r cynrychiolydd y gwneir y gorchymyn yn ei erbyn yn talu i barti naill ai swm penodedig mewn perthynas â'r costau a'r treuliau a achoswyd i'r parti arall hwnnw mewn cysylltiad â'r apêl neu'r hawliad, neu'r cyfan neu ran o'r cyfryw gostau, fel y'u hasesir, oni chytunir arnynt rywfodd arall.

(11Rhaid i orchymyn ar gyfer asesu costau o dan y rheoliad hwn ganiatáu i'r llys sirol wneud asesiad manwl o gostau yn unol â Rheolau'r Weithdrefn Sifil 1998, naill ai ar y sail safonol neu, os pennir hynny yn y gorchymyn, ar sail indemniad.