- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
61.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), os yw'r panel tribiwnlys, yn dilyn ei benderfyniad mewn perthynas ag apêl, yn gwneud gorchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn cyflawni gweithred y cyfeirir ati ym mharagraff (2) rhaid i'r awdurdod lleol gyflawni'r weithred honno o fewn y cyfnod amser a bennir ym mharagraff (2).
(2) Yn achos gorchymyn—
(a)i wneud asesiad, rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu—
(i)y rhiant, bod rhaid iddo wneud asesiad o dan adran 323(4) neu 329A(7) o Ddeddf 1996, yn ôl fel y digwydd, o fewn 5 wythnos; a
(ii)os y plentyn oedd yr apelydd, y plentyn, bod rhaid iddo wneud asesiad o dan adran 329A(7) o Ddeddf 1996 o fewn 5 wythnos;
(b)i wneud a chynnal datganiad, rhaid i'r awdurdod lleol wneud datganiad o fewn 5 wythnos;
(c)sy'n anfon achos yn ôl at yr awdurdod lleol o dan adran 325(3)(c) o Ddeddf 1996, rhaid i'r awdurdod lleol, o fewn 2 wythnos, gyflwyno i'r rhiant ac i'r plentyn gopi o'r datganiad arfaethedig a hysbysiad o dan baragraffau 2(1) a 2B(2), yn eu trefn, o Atodlen 27 i Ddeddf 1996, neu roi hysbysiad i'r rhiant ac i'r plentyn—
(i)o dan adran 325(1) o Ddeddf 1996 ei fod wedi penderfynu peidio â gwneud datganiad;
(ii)o'i resymau am y penderfyniad hwnnw;
(iii)o hawl y rhiant a'r plentyn i apelio i'r Tribiwnlys yn erbyn y penderfyniad hwnnw; a
(iv)o'r terfyn amser y mae'n rhaid gwneud apêl i'r Tribiwnlys oddi mewn iddo;
(ch)i ddiwygio datganiad, rhaid i'r awdurdod lleol gyflwyno hysbysiad diwygio i'r rhiant ac i'r plentyn o dan baragraff 2A o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 o fewn 5 wythnos;
(d)i barhau i gynnal datganiad, rhaid i'r awdurdod lleol barhau i gynnal y datganiad gydag effaith ar unwaith;
(dd)i barhau i gynnal ac i ddiwygio datganiad, rhaid i'r awdurdod lleol barhau i gynnal y datganiad gydag effaith ar unwaith a rhaid iddo gyflwyno i'r rhiant ac i'r plentyn hysbysiad diwygio o dan baragraff 2A o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 o fewn 5 wythnos;
(e)i osod enw ysgol a bennir gan y rhiant neu'r plentyn yn lle enw ysgol neu sefydliad arall a bennir yn natganiad y plentyn, rhaid i'r awdurdod lleol, yn ddarostyngedig i baragraff (3) bennu'r ysgol a bennir gan y rhiant neu'r plentyn o fewn 2 wythnos; ac
(f)sy'n gwrthod apêl yn erbyn penderfyniad i beidio â chynnal datganiad, rhaid i'r awdurdod lleol beidio â chynnal y datganiad hwnnw ar unwaith neu ar ddyddiad a gynigiwyd gan yr awdurdod lleol, pa un bynnag yw'r diweddaraf.
(3) Os yw gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn cydymffurfio â'r ddau is-baragraff (ch) ac (e) o baragraff (2), neu'r ddau is-baragraff (dd) ac (e), o baragraff (2), rhaid i'r awdurdod lleol bennu'r ysgol a bennir gan y rhiant neu'r plentyn o fewn 5 wythnos.
(4) Ym mhob achos ym mharagraffau (2) a (3), mae'r cyfnod yn dechrau ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl gwneud y gorchymyn.
(5) Nid oes raid i'r awdurdod lleol gydymffurfio â'r cyfnodau amser y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2) a (3) os yw gwneud hynny yn anymarferol oherwydd—
(a)amgylchiadau personol eithriadol sy'n effeithio ar y rhiant neu, os y plentyn oedd yr apelydd, y plentyn yn ystod y cyfnod o amser;
(b)bod y rhiant neu, os y plentyn oedd yr apelydd, y plentyn, yn absennol o ardal yr awdurdod lleol am gyfnod parhaol o ddim llai na 2 wythnos, neu pan fo paragraff (3) yn gymwys, dim llai na 5 wythnos, yn ystod y cyfnod o amser;
(c)bod y rhiant yn dynodi bod y rhiant yn dymuno cyflwyno sylwadau i'r awdurdod lleol ynghylch yr hyn a gynhwysir yn y datganiad, o dan baragraff 4(1) o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 ar ôl diwedd y cyfnod o 15 niwrnod ar gyfer cyflwyno sylwadau o'r fath, a ddarperir ym mharagraff 4(4) o'r Atodlen honno;
(ch)bod cyfarfod rhwng y rhiant a swyddog o'r awdurdod lleol wedi ei gynnal o dan baragraff 4(1) o Atodlen 27 i Ddeddf 1996, a'r rhiant, o dan baragraff 4(2) o'r Atodlen honno, wedi ei gwneud yn ofynnol bod cyfarfod arall o'r fath, neu gyfarfod gyda'r person priodol, yn cael ei drefnu; neu
(d)bod yr awdurdod lleol wedi anfon cais ysgrifenedig at Weinidogion Cymru i ofyn am eu cydsyniad o dan adran 347(5) o Ddeddf 1996 i'r plentyn gael ei addysgu mewn ysgol annibynnol nas cymeradwywyd gan Weinidogion Cymru, ac nad oedd yr awdurdod lleol wedi cael y cyfryw gydsyniad o fewn 3 wythnos o'r diwrnod yr anfonwyd y cais.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: