Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012

Pŵer i ddileu'r apêl neu'r hawliad

29.—(1Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, yn ystod unrhyw gam mewn apêl neu hawliad, os gwneir cais gan yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol neu os cyfarwyddir felly gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, gyflwyno hysbysiad i'r apelydd neu'r hawlydd sy'n datgan bod cynnig wedi ei wneud i ddileu'r cyfan neu ran o'r apêl neu'r hawliad, ar un o'r seiliau a bennir ym mharagraff (2) neu oherwydd diffyg erlyniad.

(2Y seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw bod yr apêl neu'r hawliad—

(a)wedi ei wneud rywfodd ac eithrio'n unol â'r Rheoliadau hyn;

(b)heb fod o fewn awdurdodaeth y Tribiwnlys, neu nad yw bellach o fewn awdurdodaeth y Tribiwnlys;

(c)heb ddatgelu seiliau rhesymol;

(ch)yn camddefnyddio proses y Tribiwnlys.

(3Rhaid i'r hysbysiad o dan baragraff (1) wahodd yr apelydd neu'r hawlydd i wneud sylwadau.

(4At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)rhaid i hysbysiad sy'n gwahodd sylwadau roi gwybod i'r apelydd neu'r hawlydd y caiff yr apelydd neu'r hawlydd, o fewn cyfnod (o ddim llai na 5 niwrnod gwaith) a bennir yn yr hysbysiad, naill ai wneud sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar;

(b)bydd sylwadau wedi eu gwneud—

(i)yn achos sylwadau ysgrifenedig, os gwneir hwy o fewn y cyfnod penodedig; a

(ii)yn achos sylwadau llafar, os yw'r parti sy'n bwriadu eu gwneud wedi gofyn am gyfle i wneud hynny o fewn y cyfnod penodedig.

(5Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan yr apelydd neu'r hawlydd, orchymyn dileu'r cyfan neu ran o'r apêl neu'r hawliad, ar un o'r seiliau a bennir ym mharagraff (2) neu oherwydd diffyg erlyniad.

(6Ceir gwneud gorchymyn o dan baragraff (5) heb gynnal gwrandawiad, oni fydd yr apelydd neu'r hawlydd yn gofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar.

(7Os gwneir sylwadau llafar yn unol â pharagraff (6), caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ystyried y sylwadau llafar ar ddechrau'r gwrandawiad o sylwedd yr apêl neu'r hawliad.

(8Os dilëir y cyfan o'r cais apêl neu'r cais hawlio o dan baragraff (5), tybir bod yr achos y mae'r apêl neu'r hawliad yn ymwneud ag ef wedi ei derfynu.