RHAN BAPELAU ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG A HAWLIADAU ANABLEDD
Paratoi achos cyn y gwrandawiad
Pwerau rheoli'r Tribiwnlys
Pŵer i ddileu'r apêl neu'r hawliad29
1
Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, yn ystod unrhyw gam mewn apêl neu hawliad, os gwneir cais gan yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol neu os cyfarwyddir felly gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, gyflwyno hysbysiad i'r apelydd neu'r hawlydd sy'n datgan bod cynnig wedi ei wneud i ddileu'r cyfan neu ran o'r apêl neu'r hawliad, ar un o'r seiliau a bennir ym mharagraff (2) neu oherwydd diffyg erlyniad.
2
Y seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw bod yr apêl neu'r hawliad—
a
wedi ei wneud rywfodd ac eithrio'n unol â'r Rheoliadau hyn;
b
heb fod o fewn awdurdodaeth y Tribiwnlys, neu nad yw bellach o fewn awdurdodaeth y Tribiwnlys;
c
heb ddatgelu seiliau rhesymol;
ch
yn camddefnyddio proses y Tribiwnlys.
3
Rhaid i'r hysbysiad o dan baragraff (1) wahodd yr apelydd neu'r hawlydd i wneud sylwadau.
4
At ddibenion y rheoliad hwn—
a
rhaid i hysbysiad sy'n gwahodd sylwadau roi gwybod i'r apelydd neu'r hawlydd y caiff yr apelydd neu'r hawlydd, o fewn cyfnod (o ddim llai na 5 niwrnod gwaith) a bennir yn yr hysbysiad, naill ai wneud sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar;
b
bydd sylwadau wedi eu gwneud—
i
yn achos sylwadau ysgrifenedig, os gwneir hwy o fewn y cyfnod penodedig; a
ii
yn achos sylwadau llafar, os yw'r parti sy'n bwriadu eu gwneud wedi gofyn am gyfle i wneud hynny o fewn y cyfnod penodedig.
5
Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan yr apelydd neu'r hawlydd, orchymyn dileu'r cyfan neu ran o'r apêl neu'r hawliad, ar un o'r seiliau a bennir ym mharagraff (2) neu oherwydd diffyg erlyniad.
6
Ceir gwneud gorchymyn o dan baragraff (5) heb gynnal gwrandawiad, oni fydd yr apelydd neu'r hawlydd yn gofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar.
7
Os gwneir sylwadau llafar yn unol â pharagraff (6), caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ystyried y sylwadau llafar ar ddechrau'r gwrandawiad o sylwedd yr apêl neu'r hawliad.
8
Os dilëir y cyfan o'r cais apêl neu'r cais hawlio o dan baragraff (5), tybir bod yr achos y mae'r apêl neu'r hawliad yn ymwneud ag ef wedi ei derfynu.