xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
28.—(1) Caiff y Llywydd wneud cyfarwyddiadau ymarfer.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn ystyr “cyfarwyddiadau ymarfer” (“practice directions”) yw cyfarwyddiadau ymarfer a ddyroddir gan y Llywydd i roi cyngor ymarferol ar sut i ddehongli'r Rheoliadau hyn.
(3) Mae pŵer y Llywydd i wneud cyfarwyddiadau ymarfer o dan baragraff (1) yn cynnwys pŵer i amrywio neu ddirymu'r cyfarwyddiadau ymarfer.
(4) Rhaid i'r Llywydd gyhoeddi cyfarwyddiadau ymarfer a wnaed o dan baragraff (1), ac unrhyw amrywiad neu ddirymiad o gyfarwyddiadau ymarfer, yn y modd sy'n briodol ym marn y Llywydd.
29.—(1) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, yn ystod unrhyw gam mewn apêl neu hawliad, os gwneir cais gan yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol neu os cyfarwyddir felly gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, gyflwyno hysbysiad i'r apelydd neu'r hawlydd sy'n datgan bod cynnig wedi ei wneud i ddileu'r cyfan neu ran o'r apêl neu'r hawliad, ar un o'r seiliau a bennir ym mharagraff (2) neu oherwydd diffyg erlyniad.
(2) Y seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw bod yr apêl neu'r hawliad—
(a)wedi ei wneud rywfodd ac eithrio'n unol â'r Rheoliadau hyn;
(b)heb fod o fewn awdurdodaeth y Tribiwnlys, neu nad yw bellach o fewn awdurdodaeth y Tribiwnlys;
(c)heb ddatgelu seiliau rhesymol;
(ch)yn camddefnyddio proses y Tribiwnlys.
(3) Rhaid i'r hysbysiad o dan baragraff (1) wahodd yr apelydd neu'r hawlydd i wneud sylwadau.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)rhaid i hysbysiad sy'n gwahodd sylwadau roi gwybod i'r apelydd neu'r hawlydd y caiff yr apelydd neu'r hawlydd, o fewn cyfnod (o ddim llai na 5 niwrnod gwaith) a bennir yn yr hysbysiad, naill ai wneud sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar;
(b)bydd sylwadau wedi eu gwneud—
(i)yn achos sylwadau ysgrifenedig, os gwneir hwy o fewn y cyfnod penodedig; a
(ii)yn achos sylwadau llafar, os yw'r parti sy'n bwriadu eu gwneud wedi gofyn am gyfle i wneud hynny o fewn y cyfnod penodedig.
(5) Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan yr apelydd neu'r hawlydd, orchymyn dileu'r cyfan neu ran o'r apêl neu'r hawliad, ar un o'r seiliau a bennir ym mharagraff (2) neu oherwydd diffyg erlyniad.
(6) Ceir gwneud gorchymyn o dan baragraff (5) heb gynnal gwrandawiad, oni fydd yr apelydd neu'r hawlydd yn gofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar.
(7) Os gwneir sylwadau llafar yn unol â pharagraff (6), caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ystyried y sylwadau llafar ar ddechrau'r gwrandawiad o sylwedd yr apêl neu'r hawliad.
(8) Os dilëir y cyfan o'r cais apêl neu'r cais hawlio o dan baragraff (5), tybir bod yr achos y mae'r apêl neu'r hawliad yn ymwneud ag ef wedi ei derfynu.
30.—(1) Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, os yr ystyrir yn briodol gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, yn ystod unrhyw gam o'r apêl neu'r hawliad, orchymyn diwygio datganiad achos parti ar y sail nad yw'n datgelu seiliau rhesymol dros wneud yr apêl neu'r hawliad neu oherwydd ei fod yn camddefnyddio proses y Tribiwnlys.
(2) Cyn gwneud gorchymyn o dan baragraff (1), rhaid i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys roi hysbysiad i'r parti y mae'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys yn bwriadu gwneud gorchymyn yn ei erbyn, gan wahodd sylwadau ganddo, a rhaid i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys ystyried unrhyw sylwadau a wneir.
(3) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)rhaid i hysbysiad sy'n gwahodd sylwadau roi gwybod i'r parti y caiff, o fewn cyfnod (o ddim llai na 5 niwrnod gwaith) a bennir yn yr hysbysiad, naill ai wneud sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar;
(b)bydd sylwadau wedi eu gwneud—
(i)yn achos sylwadau ysgrifenedig, os gwneir hwy o fewn y cyfnod a bennir felly; a
(ii)yn achos sylwadau llafar, os yw'r parti sy'n bwriadu eu gwneud wedi gofyn am gyfle i wneud hynny o fewn y cyfnod a bennir felly.
31.—(1) Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys roi cyfarwyddiadau ar—
(a)y materion y mae'n ofynnol cael tystiolaeth neu gyflwyniadau yn eu cylch;
(b)natur y dystiolaeth neu'r cyflwyniadau sy'n ofynnol;
(c)pa un a ganiateir i'r partïon ddarparu tystiolaeth arbenigol ai peidio, neu a yw'n ofynnol iddynt wneud hynny, ac os felly, a oes raid i'r partïon ar y cyd benodi un arbenigwr i ddarparu tystiolaeth o'r fath;
(ch)y modd y darperir unrhyw dystiolaeth neu gyflwyniadau, a chaiff hynny gynnwys cyfarwyddyd i'w rhoi—
(i)ar lafar mewn gwrandawiad; neu
(ii)fel cyflwyniadau ysgrifenedig neu ddatganiad tyst ysgrifenedig; a
(d)yr amser erbyn pryd y darperir unrhyw dystiolaeth neu gyflwyniadau.
(2) Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys gyfarwyddo, mewn perthynas ag apêl—
(a)rhiant y plentyn i roi'r plentyn ar gael i'w archwilio neu'i asesu gan berson proffesiynol sydd â chymhwyster addas; neu
(b)y person sy'n gyfrifol am ysgol neu leoliad addysgol i ganiatáu i berson proffesiynol sydd â chymhwyster addas gael mynediad i'r ysgol neu'r lleoliad addysgol at y diben o asesu'r plentyn neu'r ddarpariaeth a wneir, neu sydd i'w gwneud, ar gyfer y plentyn.
(3) Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ystyried bod methiant person, sy'n barti yn yr apêl, i gydymffurfio â gofyniad a wneir o dan baragraff (2), yn absenoldeb unrhyw reswm da dros fethiant o'r fath, yn fethiant i gydweithredu â'r Tribiwnlys.
(4) Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys—
(a)derbyn tystiolaeth, pa un a fyddai'r dystiolaeth yn dderbyniadwy ai peidio mewn treial sifil yng Nghymru neu Loegr;
(b)allgáu tystiolaeth a fyddai, fel arall, yn dderbyniadwy—
(i)os na ddarparwyd y dystiolaeth o fewn yr amser a ganiateid gan gyfarwyddyd;
(ii)os darparwyd y dystiolaeth rywfodd arall mewn modd nad oedd yn cydymffurfio â chyfarwyddyd; neu
(iii)os byddai'n annheg rywfodd arall pe derbynnid y dystiolaeth.
32.—(1) Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, pan wneir cais gan barti neu ar gymhelliad y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ei hunan, roi pa bynnag gyfarwyddiadau i barti ar unrhyw fater sy'n codi mewn perthynas â'r apêl neu'r hawliad ac a ystyrir yn briodol gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, gan gynnwys y cyfryw gyfarwyddiadau a ddarperir yn rheoliadau 34 a 35, i alluogi'r partïon i baratoi ar gyfer y gwrandawiad neu gynorthwyo'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys i benderfynu'r materion.
(2) Rhaid i gais gan barti am gyfarwyddiadau gael ei wneud yn ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Tribiwnlys.
(3) Rhaid i barti sy'n cyflwyno cais am gyfarwyddiadau i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, oni chyflwynir y cais ynghyd â chydsyniad ysgrifenedig y parti arall, gyflwyno copi o'r cais i'r parti arall.
(4) Os bydd y parti arall yn gwrthwynebu'r cyfarwyddiadau a geisir, rhaid i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys ystyried y gwrthwynebiad, ac os yw'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys o'r farn bod angen hynny ar gyfer penderfynu'r cais, rhaid rhoi cyfle i'r partïon wneud sylwadau.
(5) Os, ym marn y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, na cheid amser rhesymol cyn gwrandawiad y rhoddwyd hysbysiad ohono o dan reoliad 41(1), i gydymffurfio â chyfarwyddyd y gwneir cais amdano gan barti, caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys—
(a)os bodlonwyd ef y gallai cydymffurfio â'r cyfarwyddyd gynorthwyo'r panel tribiwnlys i benderfynu'r materion, ohirio'r gwrandawiad cyn ei gychwyn o dan reoliad 51; neu
(b)gwrthod y cais.
(6) Rhaid i gyfarwyddyd—
(a)cynnwys datganiad o'r canlyniadau posibl i'r apêl neu'r hawliad fel y'u darperir gan reoliad 36, pe bai parti'n methu â chydymffurfio â'r cyfarwyddyd o fewn yr amser a ganiateir gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys;
(b)oni fydd y person y cyfeirir y cyfarwyddyd ato wedi cael cyfle i wrthwynebu'r cyfarwyddyd, neu wedi cydsynio mewn ysgrifen i'r cais am y cyfarwyddyd, cynnwys datganiad i'r perwyl y caiff y person hwnnw wneud cais i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys o dan reoliad 33 am amrywio'r cyfarwyddyd neu'i osod o'r neilltu.
(7) Pan fo'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys, yn unol â rheoliad 38(1), yn gorchymyn—
(a)bod apêl i'w chlywed ar y cyd â hawliad, caiff y cyfarwyddiadau a roddir o dan baragraff (1), ymwneud â'r apêl yn unig;
(b)bod hawliad i'w glywed ar y cyd ag apêl, caiff y cyfarwyddiadau a roddir o dan baragraff (1), ymwneud â'r hawliad yn unig.
(8) Pan fo paragraff (7)(a) yn gymwys, caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ystyried a fyddai'n fuddiol, o ran penderfynu'r apêl a'r hawliad yn effeithlon ac er budd y partïon, pe rhoddid yr un cyfarwyddiadau, neu gyfarwyddiadau tebyg, mewn perthynas â'r apêl ag a roddwyd yn yr hawliad.
(9) Pan fo paragraff (7)(b) yn gymwys, caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ystyried a fyddai'n fuddiol, o ran penderfynu'r hawliad a'r apêl yn effeithlon ac er budd y partïon, pe rhoddid yr un cyfarwyddiadau, neu gyfarwyddiadau tebyg, mewn perthynas â'r hawliad ag a roddwyd yn yr apêl.
(10) Os yw'n ymddangos i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys fod mater yn codi mewn apêl neu hawliad y mae'n rhaid ei benderfynu cyn y gwrandawiad ar sylwedd yr apêl neu'r hawliad, ac na ellir ei benderfynu'n briodol drwy roi cyfarwyddiadau, caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys wysio'r partïon i ymddangos gerbron y Llywydd neu'r panel tribiwnlys at y diben hwnnw, a chaiff roi unrhyw gyfarwyddiadau angenrheidiol mewn perthynas â'u hymddangosiad.
33.—(1) Os na chafodd parti y cyfeirir cyfarwyddyd ato gyfle i wrthwynebu rhoi'r cyfarwyddyd hwnnw, ac nad oedd wedi cydsynio mewn ysgrifen â'r cais am y cyfarwyddyd hwnnw, caiff y parti hwnnw wneud cais i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys, ar unrhyw adeg drwy hysbysiad i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, am i'r cyfarwyddyd gael ei amrywio neu'i osod o'r neilltu.
(2) Rhaid i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys beidio ag amrywio'r cyfarwyddyd na'i osod o'r neilltu heb yn gyntaf hysbysu'r partïon ac ystyried unrhyw sylwadau a wneir ganddynt.
34. Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys roi cyfarwyddiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw barti yn darparu, naill ai yn natganiad achos y parti hwnnw neu ynghyd â'r datganiad achos, pa bynnag fanylion neu ddatganiadau atodol y gofynnir amdanynt yn rhesymol ar gyfer penderfynu'r apêl neu'r hawliad.
35.—(1) Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys—
(a)cyfarwyddo parti i gyflwyno i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys erbyn dyddiad penodedig unrhyw ddogfen neu ddeunydd arall y gofynnir amdani neu amdano gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, ac sydd o fewn gallu'r parti hwnnw i'w chyflwyno neu gyflwyno;
(b)rhoi cyfarwyddyd ar—
(i)unrhyw fater y mae'n ofynnol datgelu tystiolaeth yn eu cylch;
(ii)natur a maint y datgeliad;
(iii)y modd y mae'r ddogfen neu dystiolaeth arall i'w darparu i'r Tribiwnlys; a
(iv)allgáu unrhyw ddogfen neu dystiolaeth arall sy'n amherthnasol, yn ddiangen neu a gaffaelwyd yn amhriodol.
(2) Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys osod amod ar gyflenwi copi o unrhyw ddogfen neu ddeunydd arall a gyflwynir wrth gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan baragraff (1), bod rhaid i'r parti sy'n ei gael ddefnyddio'r copi at ddibenion yr apêl neu'r hawliad yn unig.
(3) Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ofyn am ymgymeriad ysgrifenedig yr ufuddheir i'r amod y cyfeirir ato ym mharagraff (2) cyn cyflenwi copi.
(4) Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ganiatáu gorchymyn i barti ar gyfer y math o ddatgelu neu archwilio dogfennau (gan gynnwys cymryd copïau) y gellid ei ganiatáu o dan Reolau'r Weithdrefn Sifil 1998(1).
(5) Rhaid i orchymyn o dan baragraff (4) gynnwys cyfeiriad—
(a)mewn perthynas ag apêl, bod unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â'r gofynion ynglŷn â datgelu neu archwilio dogfennau, yn atebol o dan adran 336 o Ddeddf 1996, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol;
(b)mewn perthynas â hawliad, bod unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â'r gofynion ynglŷn â datgelu neu archwilio dogfennau, yn atebol o dan baragraff 6(8) o Atodlen 17 i Ddeddf 2010, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy na fydd yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
36.—(1) Os na fydd parti wedi cydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan y Rheoliadau hyn o fewn yr amser a bennir yn y cyfarwyddyd, caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys—
(a)os yr apelydd neu'r hawlydd yw'r parti diffygiol, wrthod yr apêl neu'r hawliad heb wrandawiad;
(b)os yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol, yw'r parti diffygiol, benderfynu'r apêl neu'r hawliad heb wrandawiad;
(c)cynnal gwrandawiad—
(i)heb hysbysu'r parti diffygiol, lle na fydd y parti diffygiol yn bresennol nac yn cael ei gynrychioli; neu
(ii)pan fo'r partïon wedi eu hysbysu o'r gwrandawiad yn unol â rheoliad 41(1), a rhoi cyfarwyddyd nad oes hawl gan y parti diffygiol, nac unrhyw berson sy'n bwriadu cynrychioli'r parti hwnnw neu roi tystiolaeth ar ei ran, i fod yn bresennol yn y gwrandawiad.
(2) Yn y rheoliad hwn ystyr “y parti diffygiol” (“the party in default”) yw'r parti a fethodd â chydymffurfio â'r cyfarwyddyd.
37.—(1) Os oes mwy nag un apêl yn ymwneud â'r un plentyn, neu'n galw am benderfyniad ar yr un mater i raddau sylweddol, caiff y Llywydd orchymyn bod yr apelau i'w clywed ar y cyd.
(2) Os oes mwy nag un hawliad yn ymwneud â'r un plentyn, neu'n galw am benderfyniad ar yr un mater i raddau sylweddol, caiff y Llywydd orchymyn bod yr hawliadau i'w clywed ar y cyd.
(3) Caiff y Llywydd wneud gorchymyn sy'n amrywio neu'n dirymu gorchymyn cynharach a wnaed o dan baragraffau (1) neu (2).
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff y Llywydd ddyroddi gorchymyn o dan y rheoliad hwn yn dilyn cais ysgrifenedig gan y naill barti neu'r llall neu ar gymhelliad y Llywydd ei hunan.
(5) Rhaid peidio â gwneud gorchymyn o dan y rheoliad hwn onid yw'n ymddangos, ym marn y Llywydd, yn deg ac yn gyfiawn gwneud hynny, a chyn gwneud gorchymyn, rhaid rhoi cyfle i bob parti, ym mhob un o'r apelau neu'r hawliadau yr effeithir arnynt, gael ei glywed.
38.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), pan fo hawliad yn ymwneud â'r un plentyn a naill ai'n tarddu o'r un amgylchiadau neu'n gofyn am benderfyniad ar yr un mater, i raddau sylweddol, ag apêl, caiff y Llywydd orchymyn bod yr hawliad i'w glywed ar y cyd â'r apêl.
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) sy'n caniatáu i'r Llywydd wneud gorchymyn os nad yw'r person wedi gwneud apêl o fewn y terfyn amser ar gyfer apelau o'r fath a ddarperir gan reoliad 12(1) neu gan unrhyw estyniad amser a ganiateir o dan y Rheoliadau hyn.
(3) Ni chaiff y Llywydd wneud gorchymyn o dan baragraff (1) ac eithrio pan na fyddai gwneud y gorchymyn yn achosi oedi gormodol cyn penderfynu'r apêl, a chan gydymffurfio yn ogystal â gofynion paragraff (6).
(4) Caiff y Llywydd wneud gorchymyn sy'n amrywio neu'n dirymu gorchymyn cynharach a wnaed o dan baragraff (1).
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), caiff y Llywydd ddyroddi gorchymyn o dan y rheoliad hwn, yn dilyn cais ysgrifenedig gan y naill barti neu'r llall neu ar gymhelliad y Llywydd ei hunan.
(6) Rhaid peidio â gwneud gorchymyn o dan y rheoliad hwn onid yw gwneud hynny yn ymddangos yn deg ac yn gyfiawn, ym marn y Llywydd, a chyn gwneud gorchymyn, rhaid rhoi cyfle i bob parti, ym mhob un o'r hawliadau neu'r apelau yr effeithir arnynt, gael ei glywed.
39.—(1) Caiff person wneud cais am ei gysylltu fel parti i'r apêl neu'r hawliad.
(2) Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys wneud gorchymyn i gysylltu person fel parti i'r apêl neu'r hawliad—
(a)os gwneir cais ysgrifenedig o dan baragraff (1); neu
(b)ar gymhelliad y Llywydd neu'r panel tribiwnlys ei hunan, pan nad oes cais ysgrifenedig wedi ei wneud, ond y person yn cydsynio i gael ei gysylltu fel parti i'r apêl neu'r hawliad.
(3) Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys wneud gorchymyn i amnewid parti—
(a)os yw person anghywir wedi ei enwi'n barti; neu
(b)os oes angen yr amnewid oherwydd newid yn yr amgylchiadau er pan gychwynnwyd yr apêl neu'r hawliad.
(4) Os gwneir gorchymyn o dan baragraff (2) neu (3) caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys wneud pa bynnag gyfarwyddiadau canlyniadol, neu ymholiadau o dan reoliad 26, a ystyrir yn briodol gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys.
(5) Oni fydd y Llywydd neu'r panel tribiwnlys yn cyfarwyddo'n wahanol, rhaid trin person a benodir neu a amnewidir o dan y rheoliad hwn fel parti at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn sy'n ei gwneud yn ofynnol cyflwyno neu anfon dogfen, neu roi hysbysiad, i neu at barti yn yr apêl neu'r hawliad.
40.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i achosion mewn perthynas ag apêl a wnaed gan apelydd ac eithrio apelydd sydd â hawl i wneud apêl o dan reoliadau a wnaed o dan adran 17(1) a (2) o Fesur Addysg (Cymru) 2009.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff y Llywydd gyfeirio achos mewn perthynas ag apêl i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf os oes awdurdodaeth gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf mewn perthynas â'r achos.
(3) Rhaid peidio â chyfeirio o dan baragraff (2) oni fydd hysbysiad wedi ei roi i'r partïon.
(4) Os trosglwyddir achos mewn perthynas ag apêl i'r Tribiwnlys gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf, caiff y Tribiwnlys barhau â'r achos os oes awdurdodaeth gan y Tribiwnlys mewn perthynas â'r achos hwnnw.
O.S. 1998/3132 — Rhan 31.