Search Legislation

Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

CYCHWYN ACHOSION

Gwneud apêl neu hawliad

Cyfnod a ganiateir ar gyfer cychwyn achos

12.—(1Rhaid gwneud apêl i'r Tribiwnlys drwy gais ysgrifenedig yn unol â'r Rheoliadau hyn, a rhaid i'r Tribiwnlys ei gael ddim hwyrach na'r diwrnod gwaith cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod o ddau fis sy'n dechrau gyda'r dyddiad pan roddwyd yr hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad yr awdurdod lleol ac o'r hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad o dan Ran 4 o Ddeddf 1996(1).

(2Mewn perthynas ag apêl neu apêl arfaethedig, os cyfeirir yr anghydfod dan sylw ar gyfer datrys anghydfodau o dan adran 332BA o Ddeddf 1996(2) cyn diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (1), estynnir am dri mis y cyfnod a ganiateir gan y paragraff hwnnw.

(3Rhaid gwneud hawliad i'r Tribiwnlys drwy gais ysgrifenedig yn unol â'r Rheoliadau hyn, a rhaid i'r Tribiwnlys ei gael ddim hwyrach na'r diwrnod gwaith cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod a ddatgenir ym mharagraff 4(1) o Atodlen 17 i Ddeddf 2010(3).

(4Mewn perthynas â hawliad neu hawliad arfaethedig, os cyfeirir yr anghydfod dan sylw ar gyfer datrys anghydfodau o dan baragraff 6C o Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010(4) neu gymodi o dan adran 27(1) o Ddeddf Cydraddoldeb 2006(5) cyn diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (1), estynnir am dri mis y cyfnod a ganiateir gan y paragraff hwnnw.

(5Yn ddarostyngedig i reoliad 17, ni chaiff y Tribiwnlys ystyried—

(a)cais apêl oni chychwynnir achos yn unol â pharagraffau (1) a (2);

(b)cais hawlio oni chychwynnir achos yn unol â pharagraffau (3) a (4).

Cais apêl

13.—(1Rhaid i'r cais apêl ddatgan—

(a)enw a chyfeiriad y person sy'n gwneud yr apêl, ac os ydynt ar gael, rhif teleffon, rhif ffacs a chyfeiriad e-bost y person hwnnw;

(b)enw a dyddiad geni'r plentyn;

(c)os yw'n berthnasol, y berthynas neu'r cysylltiad rhwng y person sy'n gwneud yr apêl a'r plentyn;

(ch)enwau a chyfeiriadau'r holl bersonau sydd â chyfrifoldeb rhiant, neu sy'n rhannu'r cyfrifoldeb rhiant, dros y plentyn neu sy'n gofalu am y plentyn, neu resymau pam na ddarperir enwau a chyfeiriadau'r personau hynny;

(d)enw a chyfeiriad unrhyw gynrychiolydd a benodir gan y person sy'n gwneud yr apêl, ac os ydynt ar gael, rhif teleffon, rhif ffacs a chyfeiriad e-bost y cynrychiolydd hwnnw;

(dd)cyfeiriad ac os oes un ar gael, cyfeiriad e-bost, lle y dylid anfon hysbysiadau a dogfennau ar gyfer y person sy'n gwneud yr apêl;

(e)enw a chyfeiriad yr awdurdod lleol a wnaeth y penderfyniad a herir;

(f)y dyddiad y cafodd y person sy'n gwneud yr apêl gadarnhad ysgrifenedig o'r penderfyniad a herir;

(ff)y rheswm neu'r rhesymau dros wneud yr apêl;

(g)y canlyniad a geisir; ac

(ng)y camau, os oes rhai, a gymerwyd eisoes i ddatrys yr anghydfod.

(2Os yw'r person sy'n gwneud yr apêl yn gofyn am orchymyn—

(a)bod datganiad y plentyn i'w ddiwygio, rhaid i'r cais apêl bennu â pha ran neu rannau o'r datganiad y mae'r apêl yn ymwneud;

(b)bod ysgol (ac eithrio unrhyw ysgol a enwir eisoes yn natganiad y plentyn) i gael ei henwi yn y datganiad, rhaid i'r cais apêl naill ai ddatgan enw a chyfeiriad yr ysgol honno neu roi disgrifiad digonol o'r math o ysgol, ac o natur yr ysgol, a ystyrid gan y person yn lleoliad priodol ar gyfer y plentyn.

(3Ceir cyflwyno'r cais apêl ynghyd ag—

(a)copi o'r penderfyniad a herir;

(b)os gwneir yr apêl o dan adran 326 o Ddeddf 1996 neu baragraffau 8 neu 11 o Atodlen 27 i'r Ddeddf honno, copi o ddatganiad y plentyn, unrhyw ddogfennaeth a atodwyd i'r datganiad neu sy'n ffurfio rhan ohono, ac os yw ar gael, copi o'r adolygiad diweddaraf o dan adran 328 o Ddeddf 1996.

(4Rhaid cyflwyno'r cais apêl ynghyd ag—

(a)cadarnhad ysgrifenedig bod y person sy'n gwneud yr apêl wedi hysbysu'r personau, os oes rhai, a enwir yn unol â pharagraff (1)(ch), fod y person yn bwriadu gwneud apêl i'r Tribiwnlys, neu gadarnhad ysgrifenedig sy'n esbonio pam nad yw'r person sy'n gwneud yr hawliad wedi hysbysu unrhyw un o'r personau hynny;

(b)pan fo'r cais apêl yn datgan enw ysgol yn unol â pharagraff (2)(b), cadarnhad ysgrifenedig bod y person sy'n gwneud yr apêl wedi hysbysu pennaeth yr ysgol o fwriad y person i ofyn am enwi'r ysgol yn y datganiad; ac

(c)pan fo'r cais apêl, o dan baragraff (2)(b), yn datgan enw—

(i)ysgol a gynhelir, drwy gadarnhad ysgrifenedig bod y person sy'n gwneud yr apêl wedi hysbysu'r awdurdod lleol sy'n cynnal yr ysgol honno, a allai fod yr awdurdod lleol a wnaeth y penderfyniad a herir neu awdurdod lleol gwahanol, am fwriad y person i ofyn am enwi'r ysgol a gynhelir yn y datganiad;

(ii)ysgol annibynnol, drwy gadarnhad ysgrifenedig gan berchennog yr ysgol bod lle ar gael yn yr ysgol i'r plentyn.

(5Rhaid i'r cais apêl gael ei lofnodi gan y person sy'n gwneud yr apêl, neu gan unrhyw gynrychiolydd neu gyfaill achos ar ran y person hwnnw.

(6Yn unol â rheoliad 38, caiff y cais apêl gynnwys cais am i'r apêl gael ei chlywed ar y cyd â hawliad yn erbyn corff cyfrifol.

Cais hawlio

14.—(1Rhaid i'r cais hawlio ddatgan—

(a)enw a chyfeiriad y person sy'n gwneud yr hawliad ac os ydynt ar gael, rhif teleffon, rhif ffacs a chyfeiriad e-bost y person hwnnw;

(b)enw a dyddiad geni'r plentyn;

(c)os yw'n berthnasol, y berthynas neu'r cysylltiad rhwng y person sy'n gwneud yr hawliad a'r plentyn;

(ch)enwau a chyfeiriadau'r holl bersonau sydd â chyfrifoldeb rhiant, neu sy'n rhannu'r cyfrifoldeb rhiant, dros y plentyn neu sy'n gofalu am y plentyn, neu'r rhesymau pam na ddarparwyd enwau a chyfeiriadau'r personau hynny;

(d)enw a cyfeiriad unrhyw gynrychiolydd a benodir gan y person sy'n gwneud yr hawliad, ac os ydynt ar gael, rhif teleffon, rhif ffacs a chyfeiriad e-bost y cynrychiolydd hwnnw;

(dd)cyfeiriad ac os oes un ar gael, cyfeiriad e-bost, lle y dylid anfon hysbysiadau a dogfennau ar gyfer y person sy'n gwneud yr hawliad;

(e)enw a chyfeiriad—

(i)yr ysgol neu'r awdurdod lleol a wnaeth y penderfyniad a herir; neu

(ii)yr awdurdod ar gyfer yr ysgol a enwir o dan baragraff (1)(e)(i) os yw'r cyfryw ysgol yn ysgol a gynhelir;

(f)manylion y penderfyniad a herir, y mae'r hawliad yn ymwneud ag ef;

(ff)y dyddiad neu'r dyddiadau y digwyddodd y penderfyniad a herir;

(g)y rheswm neu'r rhesymau dros wneud yr hawliad;

(ng)y canlyniad a geisir; ac

(h)y camau, os oes rhai, a gymerwyd eisoes i ddatrys yr anghydfod.

(2Rhaid i'r cais hawlio gynnwys disgrifiad o anabledd y plentyn.

(3Os yw ar gael, dylid cyflwyno ynghyd â'r cais hawlio dystiolaeth o ddiagnosis meddygol neu ddiagnosis proffesiynol arall mewn perthynas ag anabledd y plentyn.

(4Rhaid cyflwyno'r cais hawlio ynghyd â chadarnhad ysgrifenedig bod y person sy'n gwneud yr hawliad wedi hysbysu'r personau, os oes rhai, a enwir yn unol â pharagraff (1)(ch), fod y person wedi gwneud hawliad i'r Tribiwnlys; neu gadarnhad ysgrifenedig sy'n esbonio pam nad yw'r person sy'n gwneud yr hawliad wedi hysbysu unrhyw un o'r personau hynny.

(5Rhaid i'r cais hawlio gael ei lofnodi gan y person sy'n gwneud yr hawliad, neu gan unrhyw gynrychiolydd neu gyfaill achos ar ran y person hwnnw.

(6Yn unol â rheoliad 38, caiff y cais hawlio gynnwys cais am i'r hawliad gael ei glywed ar y cyd ag apêl yn erbyn awdurdod lleol.

Gweithredu gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys

15.—(1Pan ddaw'r cais apêl neu'r cais hawlio i law, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys—

(a)cofnodi ei fanylion yn y Gofrestr; a

(b)anfon at yr apelydd neu'r hawlydd—

(i)cydnabyddiaeth o'i dderbyn a nodyn o rif yr achos a gofnodwyd yn y Gofrestr;

(ii)nodyn o'r cyfeiriad y dylid anfon hysbysiadau a chyfathrebiadau iddo ar gyfer y Tribiwnlys;

(iii)hysbysiad y gellir cael cyngor ynghylch y weithdrefn apelau neu hawliadau o swyddfa'r Tribiwnlys;

(iv)yn ddarostyngedig i reoliad 19(2), hysbysiad sy'n datgan yr amser a ganiateir ar gyfer cyflwyno datganiad achos a thystiolaeth yr apelydd neu'r hawlydd o dan reoliad 19(1); a

(v)datganiad o'r canlyniadau posibl i'r apêl neu'r hawliad os na fydd y parti'n cydymffurfio â rheoliad 7 (rhwymedigaeth ar y partïon i gydweithredu).

(2Yr un pryd ag yr anfonir yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b)(iv) at yr apelydd neu'r hawlydd, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon at yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol—

(a)copi o'r cais apêl neu'r cais hawlio ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig;

(b)nodyn o'r cyfeiriad y dylid anfon hysbysiadau a chyfathrebiadau iddo ar gyfer y Tribiwnlys;

(c)hysbysiad sy'n datgan yr amser ar gyfer cyflwyno datganiad achos a thystiolaeth yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol o dan reoliad 19(1), a'r canlyniadau os na wneir hynny; a

(ch)datganiad o'r canlyniadau posibl i'r apêl neu'r hawliad os nad yw parti'n cydymffurfio â rheoliad 7 (rhwymedigaeth ar y partïon i gydweithredu).

(3Pan fo'n ofynnol canfod enw'r corff cyfrifol mewn perthynas â hawliad, caiff y Llywydd wneud pa bynnag ymholiadau sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw.

(4Os yw'n ymddangos i'r Llywydd neu Ysgrifennydd y Tribiwnlys y gall fod mwy nag un corff cyfrifol mewn perthynas â hawliad, caiff y Tribiwnlys anfon y ddogfennaeth a bennir ym mharagraff (2) at unrhyw rai neu at bob un o'r cyfryw gyrff, fel y bo'n briodol.

(5Os yw Llywydd ac Ysgrifennydd y Tribiwnlys o'r farn, ar sail y cais apêl neu'r cais hawlio, bod y person sy'n gwneud yr apêl neu'r hawliad yn gofyn i'r Tribiwnlys ystyried mater sydd y tu allan i bwerau'r Tribiwnlys, caiff Ysgrifennydd y Tribiwnlys roi hysbysiad i'r person hwnnw—

(a)sy'n datgan y rhesymau dros y farn honno; a

(b)sy'n rhoi gwybod i'r person rhaid peidio â chofnodi'r cais apêl neu'r cais hawlio yn y Gofrestr oni fydd y person, o fewn amser penodedig (rhaid iddo fod yn ddim llai na 5 niwrnod gwaith) wedi hysbysu Ysgrifennydd y Tribiwnlys o fwriad y person i fynd ymlaen â'r apêl neu'r hawliad.

(6Os yw Ysgrifennydd y Tribiwnlys wedi rhoi hysbysiad o dan baragraff (5), rhaid trin y cais apêl neu'r cais hawlio fel un sydd wedi ei gael at ddibenion paragraff (1) os yw'r person sy'n gwneud yr apêl neu'r hawliad yn hysbysu Ysgrifennydd y Tribiwnlys o ddymuniad y person i fynd ymlaen â'r apêl neu'r hawliad.

(7Os yw Ysgrifennydd y Tribiwnlys o'r farn bod gwall amlwg yn y cais apêl neu'r cais hawlio, caiff Ysgrifennydd y Tribiwnlys gywiro'r gwall hwnnw.

(8Pan fo gwall wedi ei gywiro yn unol â pharagraff (7), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys hysbysu'r person sy'n gwneud yr apêl neu'r hawliad o'r cywiriad, a datgan effaith paragraff (9).

(9Oni fydd y person sy'n gwneud yr apêl neu'r hawliad yn rhoi gwybod i Ysgrifennydd y Tribiwnlys fod y person yn gwrthwynebu'r cywiriad, o fewn 5 niwrnod gwaith ar ôl rhoi'r hysbysiad o dan baragraff (8), rhaid trin y cais apêl neu'r cais hawlio fel y'i cywirwyd fel y cais apêl neu'r cais hawlio at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(10Yn ddarostyngedig i reoliadau 67(2) a (3) a pharagraff (11), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon yr holl ddogfennau a hysbysiadau ynglŷn â'r apêl neu'r hawliad at yr apelydd neu'r hawlydd.

(11Mae paragraff (10) yn gymwys—

(a)oni fydd yr apelydd neu'r hawlydd yn hysbysu Ysgrifennydd y Tribiwnlys fod rhaid anfon yr holl ddogfennau a hysbysiadau ynglŷn â'r apêl neu'r hawliad at y cynrychiolydd yn hytrach nag at yr apelydd neu'r hawlydd;

(b)yn ddarostyngedig i reoliadau 55(7) a 79(5).

(12Pan fo paragraff (11)(a) yn gymwys, rhaid dehongli cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn (sut bynnag y'u mynegir) at anfon dogfennau at yr apelydd neu'r hawlydd, neu roi hysbysiad i'r apelydd neu'r hawlydd, fel pe baent yn gyfeiriadau at anfon dogfennau at y cynrychiolydd neu roi hysbysiad i'r cynrychiolydd.

Apêl neu hawliad a wneir y tu allan i'r amser

16.—(1Caiff y Llywydd ystyried—

(a)unrhyw apêl sydd y tu allan i'r amser os yw'r Llywydd o'r farn, o dan holl amgylchiadau'r achos, y byddai'n deg a chyfiawn gwneud hynny;

(b)unrhyw apêl sydd y tu allan i'r amser o dan baragraff 4(3) o Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

(2Caiff y Llywydd geisio gwybodaeth bellach gan y person sy'n gwneud yr apêl neu'r hawliad cyn gwneud penderfyniad o dan baragraff (1).

Digonolrwydd y rhesymau

17.—(1Os nad yw'r cais apêl neu'r cais hawlio yn cynnwys datganiad o'r rhesymau dros wneud yr apêl neu'r hawliad, neu os na chyflwynir ef ynghyd â datganiad o'r fath, gan gynnwys, mewn perthynas â hawliad, yr wybodaeth a bennir yn rheoliad 14(1)(ff), (g) a (2), ac sy'n ddigonol ym marn y Llywydd i alluogi'r awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol i ymateb i'r apêl neu'r hawliad, rhaid i'r Llywydd gyfarwyddo'r apelydd neu'r hawlydd i anfon manylion o'r rhesymau at Ysgrifennydd y Tribiwnlys o fewn 10 niwrnod gwaith ar ôl rhoi'r cyfarwyddyd.

(2Mae rheoliad 36 yn gymwys i gyfarwyddyd o dan baragraff (1).

(3Mae'r rhesymau a anfonir wrth ymateb i gyfarwyddyd a roddir o dan baragraff (1) i'w trin fel pe baent yn rhan o'r cais apêl neu'r cais hawlio.

Cynrychiolwyr yr apelydd neu'r hawlydd

18.—(1Caiff yr apelydd neu'r hawlydd, yn y cais apêl neu'r cais hawlio neu drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Tribiwnlys ar unrhyw adeg yn ddiweddarach—

(a)penodi cynrychiolydd;

(b)penodi cynrychiolydd arall i gymryd lle'r cynrychiolydd a benodwyd yn flaenorol ac y diddymir ei benodiad gan y penodiad diweddarach;

(c)datgan nad oes unrhyw berson yn gweithredu fel cynrychiolydd yr apelydd neu'r hawlydd, sy'n diddymu unrhyw benodiad blaenorol.

(2Pan wneir penodiad o dan baragraff (1), rhaid i'r apelydd neu'r hawlydd roi enw, cyfeiriad, a manylion cyswllt y cynrychiolydd.

(1)

Gweler Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) 2002, rheoliad 5 (cyflwyno dogfennau) (O.S. 2002/152).

(2)

Mewnosodwyd adran 332BA gan adran 5 o Fesur Addysg (Cymru) 2009.

(3)

Mae paragraff 4(1) o Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn pennu o fewn pa gyfnod y mae'n rhaid gwneud hawliad i'r Tribiwnlys. Mae is-baragraff (2) yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag achosion, neu achosion arfaethedig, pan gyfeirir yr anghydfod ar gyfer cymodi.

(4)

Mewnosodwyd paragraff 6C yn Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 gan O.S. 2011/1651.

(5)

2006 p.3; amnewidiwyd adran 27(1) gan baragraff 16 o Atodlen 26 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010; ail-rifwyd paragraff 16 fel paragraff 71 o Atodlen 26 gan baragraff 1(c) o Atodlen 1 i O.S. 2010/2279; diwygiwyd adran 27(1) yn ddiweddarach gan O.S. 2011/1060.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources