xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012 a deuant i rym ar 6 Mawrth 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—
ystyr “apêl” (“appeal”) yw—
yn ddarostyngedig i is-baragraff (b), apêl i'r Tribiwnlys o dan Ran 4 o Ddeddf 1996 ac Atodlen 27 iddi yn erbyn penderfyniad awdurdod lleol;
yn rheoliadau 58 i 60, apêl i'r Uwch Dribiwnlys yn erbyn penderfyniad panel tribiwnlys;
ystyr “apelydd” (“appellant”) yw person sydd â hawl i apelio i'r Tribiwnlys o dan Ran 4 o Ddeddf 1996 neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 17(1) a (2) o Fesur Addysg (Cymru) 2009(1);
ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod ac eithrio'r awdurdod lleol a wnaeth y penderfyniad a herir;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw'r awdurdod lleol yng Nghymru a wnaeth y penderfyniad a herir;
ystyr “Cadeirydd” (“Chair”) yw person a benodir i'r panel Cadeiryddion o dan adran 333(2) o Ddeddf 1996;
ystyr “clerc i'r panel tribiwnlys” (“clerk to the tribunal panel”) yw'r person a benodir gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys i weithredu yn y swydd honno mewn un neu ragor o wrandawiadau;
ystyr “Cofrestr” (“Register”) yw'r gofrestr y mae'n ofynnol ei chadw o dan reoliad 75;
mae i “corff cyfrifol” yr ystyr a roddir i “responsible body” gan adran 85(9) o Ddeddf 2010(2);
ystyr “cyfaill achos” (“case friend”) yw person sy'n cyflwyno datganiad o addasrwydd i'r Tribiwnlys yn unol â rheoliad 66, i arfer hawl y plentyn i wneud apêl neu hawliad ar ran y plentyn;
ystyr “cyfeiriad e-bost” (“email address”) yw cyfeiriad post electronig personol y person;
ystyr “cyfnod datganiad achos” (“case statement period”) yw'r cyfnod a bennir yn rheoliad 19;
ystyr “datganiad” (“statement”) yw'r datganiad o anghenion addysgol arbennig mewn perthynas â'r plentyn, a wnaed o dan adran 324 o Ddeddf 1996;
ystyr “datganiad achos” (“case statement”) yw'r datganiad achos a gyflwynir yn unol â rheoliad 20 neu 21;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;
ystyr “Deddf 2010” (“the 2010 Act”) yw Deddf Cydraddoldeb 2010;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio—
dydd Sadwrn;
dydd Sul;
unrhyw ddiwrnod o 25 Rhagfyr i 1 Ionawr yn gynwysedig;
dydd Gwener y Groglith;
y dydd Llun cyntaf ym mis Mai;
unrhyw ddiwrnod ym mis Awst; neu
diwrnod sy'n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(3);
ystyr “dogfen” (“document”) yw unrhyw beth y cofnodir gwybodaeth o unrhyw ddisgrifiad ynddo;
ystyr “gwrandawiad” (“hearing”) yw gwrandawiad gerbron y Llywydd, Cadeirydd neu'r panel tribiwnlys at y diben o alluogi'r Llywydd, Cadeirydd neu'r panel tribiwnlys i gyrraedd penderfyniad ar apêl neu hawliad neu unrhyw gwestiwn neu fater, lle mae hawl gan y partïon i fod yn bresennol a chael eu clywed, ac y mae'n cynnwys gwrandawiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu'n rhannol drwy gyswllt fideo, ar y teleffon neu drwy ddull arall o gyfathrebu electronig dwyffordd disymwth;
ystyr “gwŷs tyst” (“witness summons”) yw dogfen a ddyroddir gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, sy'n ei gwneud yn ofynnol bod tyst yn bresennol mewn gwrandawiad o apêl neu hawliad, i roi tystiolaeth neu ddangos dogfennau mewn perthynas ag apêl neu hawliad i'r Tribiwnlys;
ystyr “hawliad” (“claim”) yw hawliad o dan Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2010 ac Atodlen 17 i'r Ddeddf honno ar gyfer gwahaniaethu ar sail anabledd;
ystyr “hawlydd” (“claimant”) yw person sydd â'r hawl i wneud hawliad i'r Tribiwnlys o dan Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2010 ac Atodlen 17 i'r Ddeddf honno, neu o dan reoliadau a wnaed o dan adran 17(1) a (2) o Fesur Addysg (Cymru) 2009;
mae i “llofnod electronig” yr ystyr a roddir i “electronic signature” gan adran 7 o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(4);
ystyr “Llywydd” (“President”) yw Llywydd y Tribiwnlys a benodir o dan adran 333(2)(a) o Ddeddf 1996;
ystyr “panel addysg” (“education panel”) yw'r personau a benodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 333(2)(c) o Ddeddf 1996 i banel lleyg y Tribiwnlys;
ystyr “panel tribiwnlys” (“tribunal panel”) yw panel o'r Tribiwnlys a gaiff benderfynu apêl neu'r hawliad neu unrhyw gwestiwn neu fater mewn cysylltiad ag apêl neu hawliad;
ystyr “parti” (“party”) yw—
mewn apêl, yr apelydd neu'r awdurdod lleol; a
mewn hawliad, yr hawlydd neu'r corff cyfrifol;
ystyr “penderfyniad a herir” (“disputed decision”) yw'r penderfyniad neu'r weithred, neu'r methiant i benderfynu neu weithredu, y dygir yr apêl neu'r hawliad mewn perthynas ag ef neu hi;
mae i “person priodol” yr ystyr a roddir i “appropriate person” gan baragraff 4(3) o Atodlen 27 i Ddeddf 1996;
ystyr “plentyn” (“child”) yw'r person sy'n destun yr apêl neu'r hawliad;
ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant at ddibenion adran 576 o Ddeddf 1996(5);
mae “sylwadau llafar” (“oral representations”) yn cynnwys tystiolaeth a roddir, oherwydd amhariad ar leferydd neu glyw, gan berson sy'n defnyddio iaith arwyddion;
ystyr “sylwedydd” (“observer”) yw person a gaiff fod yn bresennol mewn gwrandawiad at y diben o arsylwi ar y gwrandawiad, ond rhaid iddo beidio â chyfranogi yn y gwrandawiad na gwneud unrhyw nodiadau o'r gwrandawiad na gwneud unrhyw recordiad o'r gwrandawiad drwy ddull ffotograffig, neu drwy ddull sain neu drwy unrhyw ddull arall;
ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru neu'r Special Educational Needs Tribunal for Wales(6);
ystyr “Tribiwnlys Haen Gyntaf” (“First-tier Tribunal”) yw'r tribiwnlys a sefydlwyd o dan adran 3 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007, sydd ag awdurdodaeth yn Lloegr dros apelau a hawliadau;
mae “tystiolaeth” (“evidence”) yn cynnwys deunydd o unrhyw ddisgrifiad, a gofnodir ar unrhyw ffurf;
ystyr “Uwch Dribiwnlys” (“Upper Tribunal”) yw'r tribiwnlys apeliadol a sefydlwyd o dan adran 3 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007(7);
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir gan awdurdod lleol, sef naill ai'r awdurdod lleol a wnaeth y penderfyniad a herir neu awdurdod lleol arall;
ystyr “Ysgrifennydd y Tribiwnlys” (“Secretary of the Tribunal”) yw'r person sydd am y tro yn gweithredu fel Ysgrifennydd swyddfa'r Tribiwnlys.
3. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i apêl neu hawliad a gofnodir yn y Gofrestr ar neu ar ôl 6 Mawrth 2012.
4.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dirymir Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig 2001(8) a Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig (Diwygio) 2002(9).
(2) Bydd y Rheoliadau a bennir ym mharagraff (1) yn parhau'n gymwys mewn perthynas ag—
(a)cais am ganiatâd i apelio i'r Uwch Dribiwnlys;
(b)unrhyw apêl a wneir o dan Ran 4 o Ddeddf 1996 ac Atodlen 27 iddi os cofnodwyd y cais apêl yn y Gofrestr cyn 6 Mawrth 2012.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) dirymir Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd (Darpariaethau Cyffredinol a Gweithdrefn Hawliadau Anabledd) 2002(10).
(4) Bydd y Rheoliadau a bennir ym mharagraff (3) yn parhau'n gymwys mewn perthynas ag—
(a)cais am ganiatâd i apelio i'r Uwch Dribiwnlys;
(b)unrhyw hawliad a wneir o dan Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2010 os cofnodwyd y cais hawlio yn y Gofrestr cyn 6 Mawrth 2012(11).
(5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2)(b) a (4)(b), dirymir Rheoliadau'r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig (Terfynau Amser) (Cymru) 2001(12).
5.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os yw—
(a)apêl neu hawliad a wnaed gan riant wedi ei chofnodi neu'i gofnodi yng Nghofrestr y Tribiwnlys cyn 6 Mawrth 2012, a phlentyn sydd â hawl i wneud apêl neu hawliad i'r Tribiwnlys yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 17(1) a (2) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 yn gwneud apêl neu hawliad a gofnodir yng Nghofrestr y Tribiwnlys ar neu ar ôl 6 Mawrth 2012; a
(b)yr apêl neu'r hawliad a wnaed gan y plentyn yn gysylltiedig â'r mater a herir ac ar yr un seiliau ag a bennir yn apêl neu hawliad y rhiant.
(2) Os yw'r amgylchiadau ym mharagraff (1) yn bodoli—
(a)mae rheoliadau 37 a 38 yn gymwys; a
(b)caiff y Llywydd wneud pa bynnag gyfarwyddiadau a ystyria'r Llywydd yn gyfiawn mewn perthynas ag apêl neu hawliad y rhiant.
6.—(1) Amcan gor-redol y Rheoliadau hyn yw galluogi'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys i ymdrin ag apelau a hawliadau yn deg a chyfiawn.
(2) Mae ymdrin ag achos yn deg a chyfiawn yn cynnwys—
(a)ymdrin â'r apêl neu'r hawliad mewn ffyrdd sy'n gymesur â phwysigrwydd yr achos a chymhlethdod y materion dan sylw;
(b)osgoi, i'r graddau y mae'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys yn ystyried ei bod yn briodol, ffurfioldeb diangen yn yr achosion o dan y Rheoliadau hyn;
(c)sicrhau, i'r graddau y mae'n ymarferol, y trinnir y partïon yn gyfartal o ran trefniadaeth ac y gallant gyfranogi'n llawn yn yr achosion, gan gynnwys hwyluso unrhyw barti i gyflwyno unrhyw apêl neu hawliad, ond heb argymell pa drywydd y dylai'r parti hwnnw ei ddilyn;
(ch)defnyddio arbenigedd neilltuol y Llywydd neu'r panel tribiwnlys yn effeithiol; a
(d)osgoi oedi, i'r graddau sy'n gyson â rhoi ystyriaeth briodol i'r materion dan sylw.
(3) Rhaid i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys geisio rhoi effaith i amcan gor-redol y Rheoliadau hyn pan fo'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys—
(a)yn arfer unrhyw swyddogaeth o dan y Rheoliadau hyn; neu
(b)yn dehongli unrhyw reoliad.
(4) Yn benodol, rhaid i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys gymryd camau ymarferol i reoli apelau a hawliadau yn unol ag amcan gor-redol y Rheoliadau hyn.
7.—(1) Rhaid i'r partïon—
(a)cydweithredu â'i gilydd er mwyn gyrru'r apêl neu'r hawliad yn ei flaen;
(b)cydweithredu drwy roi dogfennau neu wybodaeth i'w gilydd, er mwyn galluogi pob parti i baratoi datganiad achos;
(c)cynorthwyo'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys i hyrwyddo amcan gor-redol y Rheoliadau hyn; ac
(ch)cydweithredu â'r Llywydd a'r panel tribiwnlys yn gyffredinol.
(2) Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys dynnu pa bynnag gasgliadau gwrthwynebus a ystyrir yn briodol gan y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, o fethiant parti i gydymffurfio ag unrhyw un o'r rhwymedigaethau a bennir ym mharagraff (1).
(3) Pan fo'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys wedi tynnu casgliad gwrthwynebus o dan baragraff (2), caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys gyfarwyddo Ysgrifennydd y Tribiwnlys i gyflwyno hysbysiad i'r parti diffygiol bod y Llywydd neu'r panel tribiwnlys yn bwriadu gwneud gorchymyn i ddileu—
(a)yr apêl, os yr apelydd yw'r parti diffygiol;
(b)yr hawliad, os yr hawlydd yw'r parti diffygiol;
(c)y datganiad achos a'r dystiolaeth ysgrifenedig, os yr awdurdod lleol neu'r corff cyfrifol yw'r parti diffygiol.
(4) Rhaid i'r hysbysiad ym mharagraff (3) wahodd sylwadau a rhaid i'r Llywydd neu'r panel tribiwnlys ystyried unrhyw sylwadau a wneir.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)rhaid i hysbysiad sy'n gwahodd sylwadau roi gwybod i'r parti diffygiol y caiff y parti hwnnw, o fewn cyfnod (ddim hwyrach na 10 niwrnod gwaith) a bennir yn yr hysbysiad, naill ai wneud sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar;
(b)bydd sylwadau wedi'u gwneud—
(i)yn achos sylwadau ysgrifenedig, os gwneir hwy o fewn y cyfnod penodedig; a
(ii)yn achos sylwadau llafar, os yw'r parti sy'n bwriadu eu gwneud wedi gofyn am gyfle i wneud hynny o fewn y cyfnod penodedig.
(6) Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a wneir gan y parti diffygiol, orchymyn dileu achos y parti hwnnw.
8.—(1) Caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys geisio, pan fo'n briodol, tynnu sylw'r partïon at unrhyw weithdrefn amgen briodol sydd ar gael i ddatrys yr anghydfod.
(2) Os yw'r partïon yn dymuno defnyddio'r weithdrefn amgen i ddatrys yr anghydfod, caiff y Llywydd neu'r panel tribiwnlys, ar yr amod bod hynny'n gyson ag amcan gor-redol y Rheoliadau hyn, ohirio ystyriaeth o'r apêl neu'r hawliad.
9. Ni cheir penodi person yn aelod o'r panel addysg oni fodlonir Gweinidogion Cymru—
(a)nad yw'r person yn gymwys i'w benodi'n Gadeirydd; a
(b)bod gan y person wybodaeth a phrofiad cyfredol o blant sydd ag—
(i)anghenion addysgol arbennig; neu
(ii)anableddau; neu
(iii)pan fo'n ofynnol, y ddau.
10.—(1) Mae awdurdodaeth y Tribiwnlys i gael ei harfer gan y cyfryw nifer o banelau tribiwnlys ag y penderfynir gan y Llywydd o bryd i'w gilydd.
(2) Mae'r panelau tribiwnlys sy'n arfer yr awdurdodaeth a roddir iddynt yn unol â pharagraff (1) i eistedd ar y cyfryw adegau, ac yn y cyfryw fannau a benderfynir o bryd i'w gilydd gan y Llywydd.
11.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 45(5), rhaid i banel tribiwnlys gael ei gyfansoddi o berson a benodir yn Gadeirydd, ynghyd â dau aelod arall.
(2) Ar gyfer pob gwrandawiad—
(a)rhaid i'r Cadeirydd fod yn naill ai'r Llywydd neu'n berson a ddewisir gan y Llywydd o'r panel o bersonau a benodir o dan adran 333(2) o Ddeddf 1996; a
(b)rhaid i'r ddau aelod arall fod yn bersonau a ddewisir gan y Llywydd o'r panel addysg.
2009 mccc 5. Cymeradwywyd Mesur Addysg (Cymru) 2009 gan Ei Mawrhydi yn y Cyngor ar 9 Rhagfyr 2009.
O dan adran 85(9) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yr awdurdod lleol neu'r corff llywodraethu, pa un bynnag sydd â'r swyddogaeth berthnasol, yw'r corff cyfrifol ar gyfer ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir; yr awdurdod lleol yw'r corff cyfrifol ar gyfer uned cyfeirio disgyblion; y perchennog yw'r corff cyfrifol ar gyfer ysgol annibynnol neu ysgol arbennig nas cynhelir gan awdurdod lleol.
O dan adran 576 o Ddeddf 1996 mae “parent”, mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc, yn cynnwys unrhyw berson nad yw'n rhiant y plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant drosto neu sy'n gofalu am y plentyn. Mae adran 212 o Ddeddf 2010 yn mabwysiadu'r diffiniad hwn at ddibenion anghydfodau anabledd.
Adran 333 (1ZA) o Ddeddf 1996.
Er eu bod wedi eu dirymu gan Atodlen 27 i Ddeddf 2010, mae Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd (Darpariaethau Cyffredinol a Gweithdrefn Hawliadau Anabledd) 2002 yn parhau i gael effaith i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru. Gweler O.S. 2010/2317.