2012 Rhif 321 (Cy.52)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) 2012

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 17(1) a (2) o Fesur Addysg (Cymru) 20091, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dod i ben1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) 2012 a deuant i rym ar 6 Mawrth 2012.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Mehefin 2015.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “cyfnod treialu” (“pilot period”) yw'r cyfnod sy'n dechrau ar 6 Mawrth 2012 ac yn dod i ben ar ddiwedd 30 Mehefin 2015;

  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 19962;

  • ystyr “Deddf 2010” (“the 2010 Act”) yw Deddf Cydraddoldeb 20103; ac

  • ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru.

Awdurdodau lleol ac ardaloedd penodedig3

At ddibenion adran 17(2) o Fesur Addysg (Cymru) 2009, awdurdodau lleol penodedig yw Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac ardaloedd penodedig yw eu hardaloedd.

Hawl Plentyn i apelio neu wneud hawliad i'r Tribiwnlys4

Yn ystod y cyfnod treialu—

a

ni chaiff plentyn apelio i'r Tribiwnlys yn unol ag adran 322ZA o Ddeddf 1996 ond os yw awdurdod lleol penodedig yn gyfrifol am y plentyn;

b

ni chaiff person wneud hawliad i'r Tribiwnlys yn unol â pharagraff 3A o Atodlen 17 i Ddeddf 2010 bod corff sy'n gyfrifol am ysgol wedi mynd yn groes i Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2010 ond os yw'r ysgol mewn ardal benodedig;

c

nid yw'r dyletswyddau a osodir ar awdurdodau lleol gan adrannau 332ZB, 332AA, 332BA a 332BB o Ddeddf 1996 yn gymwys ond i'r awdurdodau lleol penodedig; ac

ch

nid yw'r dyletswyddau a osodir ar awdurdodau lleol gan baragraffau 6B, 6C a 6D o Atodlen 17 i Ddeddf 2010 yn gymwys ond i'r awdurdodau lleol penodedig.

Gwybodaeth5

Rhaid i'r Tribiwnlys, awdurdod lleol penodedig a chorff sy'n gyfrifol am ysgol mewn ardal benodedig, cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl ar ôl cael cais, roi unrhyw wybodaeth i Weinidogion Cymru y maent yn gofyn amdani er mwyn asesu, monitro a gwerthuso gweithrediad y darpariaethau sy'n cael eu treialu.

Leighton AndrewsY Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn a wnaed o dan adran 17(1) a (2) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 (“Mesur 2009”) yn dod i rym ar 6 Mawrth 2012.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i dreialu darpariaethau Deddf Addysg 1996 a Deddf Cydraddoldeb 2010 fel y'u diwygiwyd gan Ran 1 o Fesur 2009.

Effaith y Rheoliadau hyn, o'u cymryd ynghyd â'r darpariaethau yn y Gorchymyn Cychwyn sy'n dod â Rhan 1 o Fesur 2009 i rym ar 6 Mawrth 2012, yw na fydd y darpariaethau hynny yn gymwys ond at ddibenion treialu yn ardaloedd awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin a Wrecsam. Pan fydd y Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith bydd y darpariaethau yn Rhan 1 o Fesur 2009 yn gymwys yn awtomatig i Gymru gyfan.

Mae rheoliad 2 yn diffinio'r cyfnod treialu.

Mae rheoliad 3 yn pennu mai Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a'u priod ardaloedd fydd yn treialu'r dyletswyddau a'r hawliau newydd.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth am yr hawl i wneud apêl anghenion addysgol arbennig neu wneud hawliad am wahaniaethu ar sail anabledd i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (“y Tribiwnlys”) yn ystod y cyfnod treialu ac mae'n pennu'r dyletswyddau a osodir ar Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ystod y cyfnod treialu.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru wneud cais am wybodaeth oddi wrth y Tribiwnlys, neu Gyngor Sir Caerfyrddin, neu Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, neu gorff sy'n gyfrifol am ysgol yn Sir Gaerfyrddin neu Wrecsam.