xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2. Mae gan berson hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg os yw'r person yn bodloni'r amodau canlynol—
(a)bod y person yn fyfyriwr cymwys na chafodd ei wahardd rhag bod â hawl gan baragraff 3;
(b)bod gan y person radd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig;
(c)bod y person yn cymryd cwrs cymhwysol a bod y person—
(i)yn cychwyn ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac y bydd y person yn parhau i ddilyn y cwrs ar ôl 31 Awst 2011; neu
(ii)yn cychwyn ar neu ar ôl 1 Medi 2011;
(d)bod y person yn aelod o goleg neu neuadd breifat barhaol ym Mhrifysgol Rhydychen neu'n aelod o goleg ym Mhrifysgol Caergrawnt;
(e)bod y person o dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cymhwysol; ac
(f)nad oes yr un o'r amgylchiadau yn rheoliad 4(3) yn gymwys i'r person.