- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
9.—(1) Person—
(a)sydd naill ai—
(i)yn wladolyn o'r UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac eithrio person sydd yn wladolyn o'r Deyrnas Unedig nad yw wedi arfer hawl i breswylio; neu
(ii)yn aelod o deulu person o'r fath;
(b)sydd—
(i)yn mynychu neu'n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru; neu
(ii)yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig, cwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru;
(c)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac
(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg lawnamser.
(2) Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).
(3) Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Undeb Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu gwladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn o'r UE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi ei fodloni.
(4) At ddibenion y paragraff hwn, mae gwladolyn o'r Deyrnas Unedig wedi arfer hawl i breswylio os yw'r person hwnnw wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth heblaw'r Deyrnas Unedig.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: