Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2012

Symiau ychwanegol o fenthyciadau

64.—(1Caiff myfyriwr cymwys wneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw—

(a)os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu y dylid cynyddu uchafswm y benthyciad at gostau byw sydd wedi ei hysbysu i'r myfyriwr cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd (gan gynnwys cynnydd i fyny o ddim byd) o ganlyniad i ailasesu cyfraniad y myfyriwr cymwys neu fel arall; a

(b)os yw Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw'r cynnydd yn yr uchafswm yn digwydd oherwydd i'r myfyriwr cymwys—

(i)methu â rhoi yn brydlon wybodaeth a allai effeithio ar allu'r myfyriwr cymwys i fod â hawl i gael benthyciad neu effeithio ar swm y benthyciad y mae ganddo hawl i'w gael; neu

(ii)rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran unrhyw fanylyn perthnasol.

(2Nid yw'r swm ychwanegol ym mharagraff (1), o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm wedi ei gynyddu.

(3Os yw myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am fenthyciad sy'n llai na'r uchafswm y mae ganddo hawlogaeth i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn ei achos ef.