- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
45.—(1) Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, nad yw'n fyfyriwr carfan newydd, i gael grant cymorth arbennig yn unol â rheoliad 46 mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant a achosir iddo at y diben o fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.
(2) Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, sy'n fyfyriwr carfan 2010 neu'n fyfyriwr carfan 2012, i gael grant cymorth arbennig yn unol â rheoliad 47 mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant a achosir iddo at y diben o fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.
(3) Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, sy'n fyfyriwr carfan 2011, i gael grant cymorth arbennig yn unol â rheoliad 48 mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant a achosir iddo at y diben o fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.
(4) Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael grant cymorth arbennig os yw'r myfyriwr cymwys hwnnw'n dod o fewn categori rhagnodedig o bersonau at ddibenion adran 124(1)(e) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(1), neu os trinnir ef fel rhywun sy'n atebol i wneud taliadau mewn perthynas ag annedd, a ragnodir gan reoliadau a wnaed o dan adran 130(2) o'r Ddeddf honno(2).
1992 p.4. Gwnaed newidiadau i adran 124 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Mae'r categorïau o dan adran 124(1)(e) wedi eu rhagnodi mewn rheoliadau. Y rheoliad perthnasol yw rheoliad 4ZA o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1967). Mewnosodwyd rheoliad 4ZA gan O.S. 1996/206, a ddiwygiwyd gan O. S. 1997/2197, O.S. 2000/636, O.S. 2000/1981, O.S. 2001/3070, O.S. 2006/2144, O.S. 2008/1826, O.S. 2009/583, O.S. 2009/2655 ac O.S. 2009/3152.
Mae diwygiadau i adran 130 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Y rheoliad perthnasol yw rheoliad 56 o Reoliadau Cymhorthdal Tai 2006 (O.S. 2006/213 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/718, O.S. 2008/1042, O.S. 2008/1082, O.S. 2009/583 ac O.S. 2010/641).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: