RHAN 4GRANTIAU A BENTHYCIADAU AR GYFER FFIOEDD
PENNOD 1DARPARIAETH GYFFREDINOL
Digwyddiadau15
Y digwyddiadau yw—
a
bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;
b
bod y myfyriwr, neu briod neu bartner sifil y myfyriwr, neu riant (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu'n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;
c
bod gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Undeb Ewropeaidd, a'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;
d
bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r UE;
e
bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;
f
bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;
g
bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu
h
bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.