RHAN 13CYMORTH I FYFYRWYR ÔL-RADDEDIG SYDD AG ANABLEDDAU

Cyfnod cymhwystra

122.—(1Cedwir statws myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn perthynas â chwrs ôl-radd dynodedig hyd nes terfynir y statws hwnnw yn unol â'r rheoliad hwn neu reoliad 119.

(2Y cyfnod y bydd myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cadw'r statws y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw'r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).

(3Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliad 119, mae'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben ar ddiwedd y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs ôl-radd dynodedig.

(4Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr ôl-raddedig cymwys (“A” yn y paragraff hwn a pharagraff (5))—

(a)yn tynnu'n ôl o'i gwrs ôl-radd dynodedig o dan amgylchiadau pan nad yw Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu na fyddant yn trosglwyddo statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i gwrs arall o dan reoliad 123; neu

(b)yn cefnu ar ei gwrs ôl-radd dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5Caiff Gweinidogion Cymru derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw A wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw A yn addas i gael cymorth o dan y Rhan hon.

(6Pan fo'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig sy'n gwrs rhan-amser, mae'r cyfnod cymhwystra'n terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd pan â'n amhosibl, yn ystod y flwyddyn honno neu ar ei diwedd, i'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys gwblhau'r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 121(1)(b)(ii).

(7Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y maent yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

(a)terfynu'r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael grant neu unrhyw swm penodol o grant o dan y Rhan hon;

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 128.

(8Pan fo'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben ar y dyddiad y daw'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs ôl-radd dynodedig i ben neu cyn y dyddiad hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu'r cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnodau ag y byddant yn penderfynu arnynt.