Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2012

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 6BENTHYCIADAU AT GOSTAU BYW

Amodau'r hawl i gael benthyciadau at gostau byw

49.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw'r myfyriwr cymwys yn bodloni'r amod ym mharagraff (2) ac nad yw'n cael ei hepgor gan baragraff (3) neu reoliad 7.

(2Yr amod yw bod y myfyriwr cymwys o dan 60 oed ar y dyddiad perthnasol.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn dod odano.

(4Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw'r cwrs hwnnw'n gwrs HCA hyblyg i ôl-raddedigion sy'n parhau am lai nag un flwyddyn academaidd.

(5Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw'r cwrs hwnnw—

(a)sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009; a;

(b)sy'n arwain at gymhwyster fel pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.

(6Mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sy'n dod o fewn paragraff (a) neu (d)(i) o'r diffiniad o “myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn” yn rheoliad 2 hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw'n bodloni'r amod ym mharagraff (2) ac nad yw wedi ei wahardd gan baragraff (3).

(7Rhaid trin myfyriwr cymwys y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai'n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion bod â hawl i gael benthyciad at gostau byw.

(8Mae paragraff (7) yn gymwys i'r canlynol—

(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;

(b)myfyriwr cymwys anabl—

(i)nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(ii)sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd; ac

(c)myfyriwr cymwys ar gyfnod astudio neu ar gyfnod lleoliad gwaith yn ystod blwyddyn Erasmus.

(9Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw o dan y Rhan hon os yw'r myfyriwr cymwys yn garcharor.

(10Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw o dan y Rhan hon os yw'n ymgymryd â chwrs dysgu o bell.

Cyffredinol

50.  Cyfrifir uchafswm y benthyciad at gostau byw mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

(a)pan fo'r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn, yn unol â rheoliad 51;

(b)pan fo'r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac nad yw'n fyfyriwr carfan newydd, yn unol â rheoliadau 52 a 53;

(c)pan fo'r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2010, yn fyfyriwr carfan 2012 neu'n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 sy'n ymgymryd â'i flwyddyn gyntaf o astudio, yn unol â rheoliad 54;

(d)pan fo'r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2011, yn unol â rheoliad 55.

(e)pan fo'r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol, yn unol â rheoliad 56.

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn

51.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, sydd â hawlogaeth lawn, hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys) yw, i fyfyriwr o'r fath—

(a)yng nghategori 1, £3,987;

(b)yng nghategori 2, £7,215;

(c)yng nghategori 3, £6,140;

(d)yng nghategori 4, £6,140;

(e)yng nghategori 5, £5,150.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, sydd â hawlogaeth lawn, hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys yw, i fyfyriwr o'r fath—

(a)yng nghategori 1, £3,608;

(b)yng nghategori 2, £6,570;

(c)yng nghategori 3, £5,340;

(d)yng nghategori 4, £5,340;

(e)yng nghategori 5, £4,771.

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac nad ydynt yn fyfyrwyr carfan newydd

52.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac nad yw'n fyfyriwr carfan newydd (ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, y mae ei gyfraniad yn uwch na dim).

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys) yn hafal i X-Y pan fo—

  • X

    (i)

    yng nghategori 1, yn £3,987;

    (ii)

    yng nghategori 2, yn £7,215;

    (iii)

    yng nghategori 3, yn £6,140;

    (iv)

    yng nghategori 4, yn £6,140;

    (v)

    yng nghategori 5, yn £5,150;

  • Y yn swm y grant cynhaliaeth.

(3Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys yn hafal i X-Y pan fo—

  • X i fyfyriwr o'r fath—

    (i)

    yng nghategori 1, yn £3,608;

    (ii)

    yng nghategori 2, yn £6,570;

    (iii)

    yng nghategori 3, yn £5,340;

    (iv)

    yng nghategori 4, yn £5,340;

    (v)

    yng nghategori 5, yn £4,771;

  • Y yn swm y grant cynhaliaeth.

(4Yn y rheoliad hwn, “swm y grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”) yw—

(a)os oes gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, y cyfeirir ato ym mharagraff (1), hawl o dan reoliad 42 i gael swm o grant cynhaliaeth nad yw'n fwy na £1,329, swm y grant cynhaliaeth sy'n daladwy;

(b)os oes gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, y cyfeirir ato ym mharagraff (1), hawl o dan reoliad 42 i gael swm o grant cynhaliaeth sy'n fwy na £1,329 , £1,329; ac

(c)os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy, dim.

53.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr math 1 neu i fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ei gyfraniad yn uwch na dim.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam yw, i fyfyriwr o'r fath—

(a)yng nghategori 1, £3,987;

(b)yng nghategori 2, £7,215;

(c)yng nghategori 3, £6,140;

(d)yng nghategori 4, £6,140;

(e)yng nghategori 5, £5,154.

(3Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam yw, i fyfyriwr o'r fath—

(a)yng nghategori 1, £3,608;

(b)yng nghategori 2, £6,570;

(c)yng nghategori 3, £5,340;

(d)yng nghategori 4, £5,340;

(e)yng nghategori 5, £4,771.

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyrwyr carfan 2010, yn fyfyrwyr carfan 2012 neu'n fyfyrwyr mynediad graddedig carlam 2012 sy'n ymgymryd â'u blwyddyn gyntaf o astudio

54.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2010, yn fyfyriwr carfan 2012 neu'n fyfyriwr mynediad graddedig carlam 2012 sy'n ymgymryd â'i flwyddyn gyntaf o astudio.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys) yn hafal i X-Y pan fo—

  • X i fyfyriwr o'r fath—

    (i)

    yng nghategori 1, yn £3,987;

    (ii)

    yng nghategori 2, yn £7,215;

    (iii)

    yng nghategori 3, yn £6,140;

    (iv)

    yng nghategori 4, yn £6,140;

    (v)

    yng nghategori 5, yn £5,150;

  • Y yn swm y grant cynhaliaeth.

(3Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys yn hafal i X-Y pan fo—

  • X i fyfyriwr o'r fath—

    (i)

    yng nghategori 1, yn £3,608;

    (ii)

    yng nghategori 2, yn £6,570;

    (iii)

    yng nghategori 3, yn £5,340;

    (iv)

    yng nghategori 4, yn £5,340;

    (v)

    yng nghategori 5, yn £4,771;

  • Y yn swm y grant cynhaliaeth.

(4Yn y rheoliad hwn, “swm y grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”) yw'r canlynol—

(a)os oes gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, y cyfeirir ato ym mharagraff (1), hawl o dan reoliad 43 i gael swm o grant cynhaliaeth, y swm sy'n hafal i £0.50 am bob £1 o grant cynhaliaeth y mae hawl gan y myfyriwr i'w gael, hyd at uchafswm gwerth Y o £2,575;

(b)os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy o dan reoliad 43, dim.

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyrwyr carfan 2011

55.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2011.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys) yn hafal i X-Y pan fo—

  • X i fyfyriwr o'r fath—

    (i)

    yng nghategori 1, yn £3,987;

    (ii)

    yng nghategori 2, yn £7,215;

    (iii)

    yng nghategori 3, yn £6,140;

    (iv)

    yng nghategori 4, yn £6,140;

    (v)

    yng nghategori 5, yn £5,150;

  • Y yn swm y grant cynhaliaeth.

(3Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys yn hafal i X-Y pan fo—

  • X i fyfyriwr o'r fath—

    (i)

    yng nghategori 1, yn £3,608;

    (ii)

    yng nghategori 2, yn £6,570;

    (iii)

    yng nghategori 3, yn £5,340;

    (iv)

    yng nghategori 4, yn £5,340;

    (v)

    yng nghategori 5, yn £4,771;

  • Y yn swm y grant cynhaliaeth.

(4Yn y rheoliad hwn, “swm y grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”) yw'r canlynol—

(a)os oes gan y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, y cyfeirir ato ym mharagraff (1), hawl o dan reoliad 44 i gael swm o grant cynhaliaeth, mae'r swm y mae hwnnw'n hafal iddo yn £0.50 am bob £1 o grant cynhaliaeth y mae hawl gan y myfyriwr i'w gael, hyd at uchafswm gwerth Y o £2,575;

(b)os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy o dan reoliad 44, dim.

Myfyrwyr sydd â hawlogaeth ostyngol

56.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys, fel a ganlyn—

(a)os yw'r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 28(3)(a), ar gyfer myfyriwr o'r fath—

(i)yng nghategori 1, yn £1,893;

(ii)yng nghategori 2, yn £3,547;

(iii)yng nghategori 3, yn £2,522;

(iv)yng nghategori 4, yn £2,522;

(v)yng nghategori 5, yn £2,522.

(b)os yw'r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 28(3)(b) neu 28(5), ar gyfer myfyriwr o'r fath—

(i)yng nghategori 1, yn £1,893;

(i)yng nghategori 2, yn £3,547;

(ii)yng nghategori 3, yn £3,017;

(iii)yng nghategori 4, yn £3,017;

(iv)yng nghategori 5, yn £2,522.

(c)os yw'r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd, swm hafal i X-Y pan fo—

  • X i fyfyriwr o'r fath—

    (i)

    yng nghategori 1, yn £2,990;

    (ii)

    yng nghategori 2, yn £5,412;

    (iii)

    yng nghategori 3, yn £4,606;

    (iv)

    yng nghategori 4, yn £4,606;

    (v)

    yng nghategori 5, yn £3,863;

  • Y yw'r swm penodedig ym mharagraff (d).

(d)y swm penodedig yw—

(i)£664, os myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo'n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £664;

(ii)£1,329, os myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo'n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £1,329;

(iii)dim, pan nad yw'r myfyriwr yn fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon nac yn fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 57 i 62, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys, fel a ganlyn—

(a)os yw'r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 28(3)(a), ar gyfer myfyriwr o'r fath—

(i)yng nghategori 1, yn £1,437;

(ii)yng nghategori 2, yn £2,711;

(iii)yng nghategori 3, yn £1,966;

(iv)yng nghategori 4, yn £1,966;

(v)yng nghategori 5, yn £1,966.

(b)os yw'r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 28(3)(b) neu 28(5), ar gyfer myfyriwr o'r fath—

(ii)yng nghategori 1, yn £1,437;

(i)yng nghategori 2, yn £2,711;

(ii)yng nghategori 3, yn £2,204;

(iii)yng nghategori 4, yn £2,204;

(iv)yng nghategori 5, yn £1,966.

(c)os yw'r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd, swm hafal i X-Y pan fo—

  • X i fyfyriwr o'r fath—

    (i)

    yng nghategori 1, yn £2,706;

    (ii)

    yng nghategori 2, yn £4,928;

    (iii)

    yng nghategori 3, yn £4,005;

    (iv)

    yng nghategori 4, yn £4,005;

    (v)

    yng nghategori 5, yn £3,578;

  • Y yw'r swm penodedig ym mharagraff (d).

(d)y swm penodedig yw—

(i)£664 os myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo'n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £664;

(ii)£1,329 os myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo'n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £1,329;

(iii)dim, pan nad fo'r myfyriwr yn fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon nac yn fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon.

Myfyrwyr sy'n preswylio gyda'u rhieni

57.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo myfyriwr cymwys (“A” yn y paragraff hwn) yn preswylio yng nghartref ei rieni a Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw'n rhesymol disgwyl, o dan yr holl amgylchiadau, i rieni A ei gynnal oherwydd oedran, analluedd neu reswm arall ac y byddai'n briodol i swm y benthyciad sy'n daladwy i fyfyriwr mewn categori ac eithrio categori 1 fod yn gymwys yn achos A, rhaid trin A fel pe na bai'n preswylio yng nghartref ei rieni.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n dechrau ar gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2004.

Benthyciadau at gostau byw sy'n daladwy ar gyfer tri chwarter o'r flwyddyn academaidd

58.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 60, mae benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â thri chwarter o'r flwyddyn academaidd.

(2Nid yw benthyciad at gostau byw yn daladwy—

(a)yn achos myfyriwr cwrs gradd cywasgedig, mewn perthynas â'r chwarter a enwir gan Weinidogion Cymru;

(b)mewn unrhyw achos arall, mewn perthynas â'r chwarter y mae'r hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd ynddo ym marn Gweinidogion Cymru.

Myfyrwyr sy'n dod o fewn mwy nag un categori

59.  Os yw myfyriwr cymwys yn dod o fewn mwy nag un o'r categorïau yn rheoliad 63 yn ystod y flwyddyn academaidd—

(a)uchafswm y benthyciad at gostau byw am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm uchafsymiau'r benthyciad at gostau byw am bob chwarter y mae'r benthyciad yn daladwy mewn perthynas ag ef;

(b)uchafswm y benthyciad at gostau byw am bob chwarter o'r fath yw traean o uchafswm y benthyciad at gostau byw a fyddai'n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai'r myfyriwr cymwys yn dod o fewn y categori sy'n gymwys i'r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd; ac

(c)y categori sy'n gymwys i chwarter yw—

(i)y categori y mae'r myfyriwr cymwys yn dod o fewn am y cyfnod hwy neu hwyaf yn y chwarter hwnnw; neu

(ii)os yw'r myfyriwr cymwys yn dod o fewn mwy nag un categori am gyfnod cyfartal yn y cyfnod hwnnw, y categori sydd â'r gyfradd uchaf o fenthyciad at gostau byw am y flwyddyn academaidd.

Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd

60.—(1Os yw myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (2), gall fod gan y myfyriwr hawl i gael benthyciad at gostau byw, mewn perthynas â'r chwarteri hynny o'r flwyddyn academaidd honno y mae benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â hwy ac sy'n dechrau ar ôl i'r digwyddiad perthnasol ym mharagraff (2) ddigwydd.

(2Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu'n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â'r Undeb Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(d)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(e)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(f)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(g)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys y mae paragraff (1) yn gymwys iddo hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y mae'r digwyddiad perthnasol yn digwydd ynddi.

(4Uchafswm y benthyciad at gostau byw sy'n daladwy yw cyfanswm uchafsymiau'r benthyciad am bob chwarter y mae gan y myfyriwr hawl i gael cymorth mewn perthynas ag ef o dan y rheoliad hwn.

(5Uchafswm y benthyciad at gostau byw am bob chwarter o'r fath yw traean o uchafswm y benthyciad at gostau byw a fyddai'n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai'r myfyriwr yn dod o fewn y categori sy'n gymwys i'r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Codiadau yn yr uchafswm

61.—(1Os yw'n ofynnol i fyfyriwr cymwys fod yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod sy'n hwy na 30 wythnos a 3 diwrnod mewn blwyddyn academaidd, rhaid codi uchafswm y benthyciad at gostau byw a bennir yn rheoliadau 51 i 55 am bob wythnos neu bob rhan o wythnos o bresenoldeb yn y flwyddyn academaidd honno y tu hwnt i 30 wythnos a 3 diwrnod fel a ganlyn, i fyfyriwr o'r fath:

(a)yng nghategori 1, £60;

(b)yng nghategori 2, £115;

(c)yng nghategori 3, £125;

(d)yng nghategori 4, £125;

(e)yng nghategori 5, £90.

(2Os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod nad yw'n llai na 45 wythnos mewn unrhyw gyfnod di-dor o 52 wythnos, codir swm y benthyciad at gostau byw a bennir yn rheoliadau 51 i 55 am bob wythnos yn ystod y cyfnod o 52 wythnos pan nad oedd y myfyriwr cymwys yn bresennol yn ôl y symiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

(3Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys yn achos myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol.

Didynnu o fenthyciadau at gostau byw

62.—(1Caniateir didynnu o swm y benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn neu fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn o'r benthyciad at gostau byw yn unol â rheoliad 67.

(2Ni chaniateir didynnu o swm y benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol o dan reoliad 67.

Dehongli Rhan 6

63.  Yn y Rhan hon—

(a)mae myfyriwr yng nghategori 1—

(i)yn ddarostyngedig i reoliad 57, os yw'r myfyriwr yn preswylio yng nghartref ei rieni tra bydd yn bresennol ar y cwrs; neu

(ii)os dechreuodd y myfyriwr ar y cwrs presennol cyn 1 Medi 2009 a'r myfyriwr yn aelod o urdd grefyddol ac yn byw yn un o dai'r urdd honno;

(b)mae myfyriwr yng nghategori 2 os nad yw yng nghategori 1 a'r myfyriwr yn bresennol ar un neu ragor o'r canlynol—

(i)cwrs ym Mhrifysgol Llundain;

(ii)cwrs mewn sefydliad sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o'r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle sydd yn gyfan gwbl neu yn rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd; neu

(iii)cwrs rhyngosod mewn sefydliad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r myfyriwr ymgymryd â phrofiad gwaith neu gyfuniad o brofiad gwaith ac astudio ar yr amod bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r profiad gwaith hwnnw neu'r cyfuniad hwnnw o brofiad gwaith ac astudio am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o'r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle neu safleoedd sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd;

(c)mae myfyriwr yng nghategori 3 os nad yw'r myfyriwr yng nghategori 1 ac os yw'r myfyriwr, fel rhan o'i gwrs, yn bresennol mewn sefydliad tramor, neu leoliad gwaith dramor yn ystod blwyddyn Erasmus;

(d)mae myfyriwr yng nghategori 4 os nad yw'r myfyriwr yng nghategori 1 a'i fod yn mynychu'r Athrofa;

(e)mae myfyriwr yng nghategori 5 os nad yw yng nghategorïau 1 i 4;

(f)“myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn” (“new system eligible student with full entitlement”) yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol;

(g)“myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn” (“old system eligible student with full entitlement”) yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol;

(h)rhaid dehongli “rhiant” (“parent”), ac eithrio pan ddynodir yn wahanol, yn unol â pharagraff 1(1)(f) o Atodlen 5;

(i)ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig a bennir;

(j)“myfyriwr sydd â hawlogaeth ostyngol” (“student with reduced entitlement”) yw myfyriwr cymwys—

(i)nad yw'n gymwys i gael grant at gostau byw neu gostau eraill mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd yn rhinwedd rheoliad 28(3)(a) neu (b) neu reoliad 28(5); neu

(ii)sydd, wrth wneud cais am fenthyciad at gostau byw, yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd;

(k)os un flwyddyn academaidd yn unig yw hyd cwrs i raddedigion neu ar lefel ôl-radd ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon, nid yw'r flwyddyn honno i gael ei thrin fel y flwyddyn derfynol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources