xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4GRANTIAU A BENTHYCIADAU AR GYFER FFIOEDD

PENNOD 1DARPARIAETH GYFFREDINOL

Cymorth at ffioedd yn gyffredinol

13.—(1Ni chaiff cymorth at ffioedd o dan y Rhan hon mewn perthynas â blwyddyn academaidd fod yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno.

(2At ddibenion cyfrifo swm y cymorth at ffioedd o dan y Rhan hon, rhaid peidio ag ystyried sefydliad sy'n darparu cyrsiau a ddynodir gan reoliad 4 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Dawnsio a Drama) 1999(1) yn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus am yr unig reswm ei fod yn cael arian o gronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch 1992(2).

(3Rhaid ymdrin â myfyriwr cymwys y mae paragraff (4) yn gymwys iddo fel pe bai'r myfyriwr cymwys yn bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion cymhwyso ar gyfer cymorth at ffioedd.

(4Mae'r paragraff hwn yn gymwys i'r canlynol—

(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;

(b)myfyriwr cymwys anabl—

(i)nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(ii)sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol oherwydd na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud ag anabledd y myfyriwr cymwys.

(5Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy'n ymgymryd â chwrs dysgu o bell hawl i gael unrhyw gymorth at ffioedd o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r cwrs hwnnw oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf.

(6Ni fydd gan fyfyriwr cymwys sy'n ymgymryd â chwrs dysgu o bell hawl bellach i gael unrhyw gymorth at ffioedd o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r cwrs hwnnw os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd

14.  Os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 15 yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)gall myfyriwr fod â hawl i gael grantiau a benthyciadau o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b)nid yw'r grantiau a'r benthyciadau hyn ar gael i'r myfyriwr mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

Digwyddiadau

15.  Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, neu briod neu bartner sifil y myfyriwr, neu riant (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu'n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Undeb Ewropeaidd, a'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;

(d)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r UE;

(e)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(f)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(g)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(h)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

(1)

O.S. 1999/2263, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2893.

(2)

1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.