xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
CARTREFI SYMUDOL, CYMRU
Gwnaed
24 Hydref 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
29 Hydref 2012
Yn dod i rym
19 Tachwedd 2012
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 19 Tachwedd 2012.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran unrhyw ddatganiad ysgrifenedig a roddir ar ôl 19 Tachwedd 2012 mewn perthynas â chytundeb—
(a)ar gyfer gosod cartref symudol ar safle gwarchodedig(3) yng Nghymru, a
(b)y bydd Deddf Cartrefi Symudol 1983 yn gymwys iddo.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “datganiad ysgrifenedig” (“written statement”) yw'r datganiad ysgrifenedig y mae'n ofynnol i berchennog safle gwarchodedig ei roi i'r darpar feddiannydd o dan adran 1(2) o Ddeddf 1983;
ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cartrefi Symudol 1983.
3. Y gofynion y mae'n rhaid i ddatganiad ysgrifenedig gydymffurfio â hwy at ddibenion adran 1(2) o Ddeddf 1983 (yn ychwanegol at ofynion adran 1(2)(a) i (d) o Ddeddf 1983) yw—
(a)fod yn rhaid iddo gynnwys—
(i)y nodyn sy'n rhagflaenu Rhan 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn, a
(ii)yr wybodaeth a grybwyllir yn Rhannau 1 i 3 o'r Atodlen honno (i'r graddau nad ydynt eisoes yn ofynnol gan adran 1(2)(a) i (d) o Ddeddf 1983), a
(b)fod yn rhaid iddo fod yn y ffurf a geir yn yr Atodlen honno neu mewn ffurf sylweddol debyg ei heffaith.
4. Mae Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) (Cymru) 2007(4) wedi eu dirymu.
Huw Lewis
Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru
24 Hydref 2012
Rheoliad 3
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae Deddf Cartrefi Symudol 1983 (“Deddf 1983”) yn gymwys i bob cytundeb y mae gan bobl hawl i osod cartref symudol ar safle gwarchodedig odano a'i feddiannu fel eu hunig neu eu prif breswylfa. Mae Deddf 1983 yn darparu bod yn rhaid i berchennog y safle, cyn ymrwymo i gytundeb o'r fath, roi datganiad ysgrifenedig i ddarpar feddiannydd y cartref symudol. Rhaid i'r datganiad hwn gynnwys y materion a bennir yn adran 1(2)(a) i (d) o Ddeddf 1983 a materion tebyg eraill a bennir gan reoliadau.
Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu bod yn rhaid i'r datganiad ysgrifenedig gynnwys gwybodaeth benodol, yn ogystal â'r hyn sy'n ofynnol gan adran 1(2)(a) i (d) o Ddeddf 1983, a rhaid iddo fod yn y ffurf a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Mae Rhan 1 o'r Atodlen yn cynnwys gwybodaeth am hawliau'r meddiannydd o dan y cytundeb.
Mae Rhan 2 o'r Atodlen yn nodi prif ddarpariaethau'r cytundeb, enw a chyfeiriad, manylion y tir, ffi'r llain, ei hadolygu a thaliadau ychwanegol.
Mae Rhan 3 o'r Atodlen yn cynnwys unrhyw delerau datganedig eraill y cytundeb.
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Cartrefi Symudol (Datganiad Ysgrifenedig) (Cymru) 2007.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.
Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
1983 p.34. Amnewidwyd adran 1 o Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 gan adran 206(1) o Ddeddf Tai 2004 (p.34). O ran Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw'r awdurdod cenedlaethol priodol; gweler y diffiniad o “the appropriate national authority” yn adran 5(1) o Ddeddf 1983 (fel y'i diwygiwyd gan adran 206(3) o Ddeddf 2004). Mae Deddf 1983 yn ymestyn i Gymru a Lloegr a'r Alban, ac mae wedi ei diwygio'n sylweddol o ran Cymru gan adrannau 206 i 208 o Ddeddf Tai 2004 a Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Awdurdodaeth Tribiwnlysoedd Eiddo Preswyl) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/899 (Cy.119)).
I gael y diffiniad o “mobile home” a “protected site” gweler adran 5(1) o Ddeddf Cartrefi Symudol 1983.