2012 Rhif 2572 (Cy.283)
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Sylfaenol) (Diwygiadau sy'n Ymwneud ag Unedau o Weithgaredd Deintyddol) (Cymru) 2012
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 61, 66 a 203(9) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061.
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Sylfaenol) (Diwygiadau sy'n Ymwneud ag Unedau o Weithgaredd Deintyddol) (Cymru) 2012, deuant i rym ar 1 Tachwedd 2012 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 20062
Yn Atodlen 2 (darparu gwasanaethau: unedau o weithgaredd deintyddol ac unedau o weithgaredd orthodontig) i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Cymru) 20062, ym mharagraff 2 (unedau o weithgaredd deintyddol), yn Nhabl B (unedau o weithgaredd deintyddol a ddarperir o dan y contract mewn cysylltiad â chyrsiau o driniaeth sy'n esempt rhag ffi)—
a
yn y golofn gyntaf (math ar gwrs o driniaeth sy'n esempt rhag ffi), hepgorer “Issue of a prescription”; a
b
yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn (unedau o weithgaredd deintyddol a ddarperir), hepgorer “0.75”.
Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 20063
Yn Atodlen 2 (darparu gwasanaethau: unedau o weithgaredd deintyddol ac unedau o weithgaredd orthodontig) i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cytundebau Gwasanaethau Deintyddol Personol) (Cymru) 20063, ym mharagraff 2 (unedau o weithgaredd deintyddol), yn Nhabl B (unedau o weithgaredd deintyddol a ddarperir o dan y cytundeb mewn cysylltiad â chyrsiau o driniaeth sy'n esempt rhag ffi)—
a
yn y golofn gyntaf (math ar gwrs o driniaeth sy'n esempt rhag ffi), hepgorer “Issue of a prescription”; a
b
yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn (unedau o weithgaredd deintyddol a ddarperir), hepgorer “0.75”.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)