RHAN 2Categorïau o hadau

Hadau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt4

1

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â hadau'r planhigion yn y golofn gyntaf o'r tabl yn Atodlen 1, y bwriedir eu defnyddio ar gyfer cynhyrchu amaethyddol neu arddwriaethol, ond nid ydynt yn gymwys mewn perthynas â hadau y bwriedir eu defnyddio ar gyfer planhigion addurnol.

2

Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â hadau y bwriedir eu hallforio i'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd (ac eithrio rheoliad 26 sy'n ymwneud ag ardystio ar gyfer allforio).

Categorïau o hadau5

Rhennir hadau i'r categorïau canlynol a adwaenir yn gyffredin yn ôl y talfyriadau a roddir—

a

hadau bridiwr (“BR”);

b

hadau cyn-sylfaenol (“PB”);

c

hadau sylfaenol (“BS”);

ch

hadau ardystiedig (“CS”);

d

hadau ardystiedig, cenhedlaeth gyntaf (“C1”);

dd

hadau ardystiedig, ail genhedlaeth (“C2”);

e

hadau ardystiedig, trydedd genhedlaeth (“C3”);

f

hadau masnachol (“CM”);

ff

hadau safonol (llysiau yn unig) (“ST”);

g

hadau o safon wirfoddol uwch (“HVS”).

Hadau bridiwr6

Hadau bridiwr yw hadau a gynhyrchir gan fridiwr, neu o dan gyfrifoldeb bridiwr ac y'u bwriedir ar gyfer cynhyrchu hadau cyn-sylfaenol neu hadau sylfaenol.

Cynheiliaid ar gyfer hadau cyn-sylfaenol a sylfaenol7

Ni cheir cynhyrchu hadau cyn-sylfaenol a hadau sylfaenol ac eithrio gyda chaniatâd ysgrifenedig y person a restrir fel cynheiliad yr hadau hynny yn Rhestr Genedlaethol y Deyrnas Unedig neu'r Catalog Cyffredin.