2012 Rhif 2411 (Cy.261) (C.93)
Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 3) 2012
Gwnaed
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 52(2) a 55(3) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 20101.
Enwi a dehongli1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 3) 2012.
2
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.
Darpariaethau'r Mesur sy'n dod i rym ar 1 Hydref 20122
Daw darpariaethau canlynol y Mesur i rym ar 1 Hydref 2012—
a
Adran 3 (dyletswydd i ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol);
b
Adran 6 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau ar gyfer cleifion cofrestredig mewn gofal sylfaenol);
c
Adran 7 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau gofal sylfaenol eraill);
d
Adran 8 (dyletswyddau i gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol: atgyfeiriadau gofal iechyd meddwl eilaidd);
e
Adran 9 (cynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol);
f
Adran 10 (camau i'w cymryd yn sgil asesiad iechyd meddwl sylfaenol);
g
Adran 17 (dyletswydd i gydgysylltu darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
h
Adran 18 (swyddogaethau'r cydgysylltydd gofal) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
i
Adran 41 (cydweithio a gweithio ar y cyd rhwng Byrddau Iechyd Lleol ac awdurdodau lleol) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
j
Adran 42 (rhannu gwybodaeth) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
k
Adran 43 (diwygio Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol 1970) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
l
Adran 47 (rheoliadau o ran yr unigolion y caniateir iddynt gynnal asesiadau iechyd meddwl sylfaenol a gweithredu fel cydgysylltwyr gofal) i'r graddau nad yw eisoes mewn grym; ac
m
Adran 48 (dyletswydd i adolygu'r Mesur).
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol y Mesur wedi eu dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
Adran 1 | 8 Mai 2012 | |
Adran 2 | 8 Mai 2012 | |
Adran 4 | 8 Mai 2012 | |
Adran 5 | 8 Mai 2012 | |
Adran 11 | 8 Mai 2012 | |
Adran 12 | 6 Mehefin 2012 | |
Adran 13 | 6 Mehefin 2012 | |
Adran 14 | 6 Mehefin 2012 | |
Adran 15 | 6 Mehefin 2012 | |
Adran 16 | 6 Mehefin 2012 | |
Adran 17 | 6 Mehefin 2012 (yn rhannol) | |
Adran 18 | 6 Mehefin 2012 (yn rhannol) | |
Adran 19 | 6 Mehefin 2012 | |
Adran 20 | 6 Mehefin 2012 | |
Adran 21 | 6 Mehefin 2012 | |
Adran 22 | 6 Mehefin 2012 | |
Adran 23 | 6 Mehefin 2012 | |
Adran 24 | 6 Mehefin 2012 | |
Adran 25 | 6 Mehefin 2012 | |
Adran 26 | 6 Mehefin 2012 | |
Adran 27 | 6 Mehefin 2012 | |
Adran 28 | 6 Mehefin 2012 | |
Adran 29 | 6 Mehefin 2012 | |
Adran 30 | 6 Mehefin 2012 | |
Adran 31 | 3 Ionawr 2012 (yn rhannol) | |
2 Ebrill 2012 (yn llawn) | ||
Adran 32 | 3 Ionawr 2012 | |
Adran 33 | 2 Ebrill 2012 | |
Adran 34 | 3 Ionawr 2012 (yn rhannol) | |
2 Ebrill 2012 (yn llawn) | ||
Adran 35 | 3 Ionawr 2012 | |
Adran 36 | 2 Ebrill 2012 | |
Adran 37 | 3 Ionawr 2012 | |
Adran 38 | 2 Ebrill 2012 | |
Adran 39 | 3 Ionawr 2012 (yn rhannol) | |
2 Ebrill 2012 (yn llawn) | ||
Adran 40 | 3 Ionawr 2012 (yn rhannol) | |
2 Ebrill 2012 (yn llawn) | ||
Adran 41 | 6 Mehefin 2012 (yn rhannol) | |
Adran 42 | 6 Mehefin 2012 (yn rhannol) | |
Adran 43 | 8 Mai 2012 (yn rhannol) | |
6 Mehefin 2012 (yn rhannol) | ||
Adran 44 | 3 Ionawr 2012 | |
Adran 45 | 8 Mai 2012 | |
Adran 46 | 6 Mehefin 2012 | |
Adran 47 | 6 Mehefin 2012 (yn rhannol) | |
Adran 53(1) | 3 Ionawr 2012 (yn rhannol) | |
2 Ebrill 2012 (yn llawn) | ||
Adran 54 | 3 Ionawr 2012 (yn rhannol) | |
2 Ebrill 2012 (yn llawn) | ||
Atodlen 1 | 3 Ionawr 2012 (yn rhannol) | |
2 Ebrill 2012 (yn llawn) | ||
Atodlen 2 | 3 Ionawr 2012 (yn rhannol) | |
2 Ebrill 2012 (yn llawn) |
Gweler hefyd adran 55(1) o'r Mesur ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y dyddiad ddau fis ar ôl cymeradwyo'r Mesur gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor.