xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 2319 (Cy. 253)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Digolledu) (Cymru) (Rhif 2) 2012

Gwnaed

6 Medi 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

11 Medi 2012

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(1)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 108(2A), (3C), (3D), (5) a (6) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1) sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Digolledu) (Cymru) (Rhif 2) 2012 a deuant i rym ar 5 Hydref 2012.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Atodlen 2” (“Schedule 2”) yw Atodlen 2 i Orchymyn 1995;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990; ac

ystyr “Gorchymyn 1995” (“the 1995 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995(3).

Datblygiad rhagnodedig

2.  At ddibenion paragraffau (2A)(a) a (3C)(a) o adran 108 o'r Ddeddf (digolledu pan fo gorchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol yn cael ei dynnu'n ôl), mae datblygiad o'r disgrifiad canlynol yn rhagnodedig—

(a)datblygiad a ganiateir gan Ran 1 o Atodlen 2 (datblygiad o fewn cwrtil tŷ annedd);

(b)datblygiad a ganiateir gan Ddosbarth A o Ran 8 o Atodlen 2 (estyn neu newid adeilad diwydiannol neu warws);

(c)datblygiad a ganiateir gan Ran 32 o Atodlen 2 (ysgolion, colegau, prifysgolion ac ysbytai);

(d)datblygiad a ganiateir gan Ran 40 o Atodlen 2 (gosod cyfarpar microgynhyrchu domestig); a

(e)datblygiad a ganiateir gan Ran 43 o Atodlen 2 (gosod cyfarpar microgynhyrchu annomestig).

Y dull rhagnodedig ar gyfer tynnu caniatâd cynllunio yn ôl

3.  At ddibenion adran 108(3C)(b) o'r Ddeddf, y dull rhagnodedig ar gyfer tynnu caniatâd cynllunio yn ôl yw drwy gyfarwyddyd yn unol ag erthyglau 4, 5 a (fel y bo'n briodol) 6 o Orchymyn 1995.

Hysbysiad o dynnu'n ôl-dull a chyfnod rhagnodedig

4.  At ddibenion adran 108(3C)(c) o'r Ddeddf—

(a)y dull rhagnodedig ar gyfer cyhoeddi'r hysbysiad o dynnu'n ôl yw'r dull a ddisgrifir yn erthyglau 5 a (fel y bo'n briodol) 6 o Orchymyn 1995; ac

(b)y cyfnod rhagnodedig yw 24 mis.

Hysbysiad dirymu, diwygio neu gyfarwyddiadau-dull a chyfnod rhagnodedig

5.  At ddibenion adran 108(3D)(c) o'r Ddeddf—

(a)y dull rhagnodedig ar gyfer cyhoeddi'r hysbysiad dirymu, diwygio neu gyfarwyddiadau yw'r dull a ddisgrifir ym mharagraffau (7) a (8) o erthygl 27 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(4); a

(b)y cyfnod rhagnodedig yw 24 mis.

Darpariaeth drosiannol

6.  Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw dynnu caniatâd cynllunio yn ôl ar gyfer datblygiad o ddisgrifiad a ragnodir yn rheoliad 2(d) pan oedd, cyn 18 Mehefin 2012, naill ai—

(a)hysbysiad o'r cyfarwyddyd yn tynnu'r caniatâd hwnnw yn ôl wedi ei roi yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn 1995; neu

(b)y cyfarwyddyd yn un y mae erthygl 6 o Orchymyn 1995 (hysbysiad a chadarnhad o gyfarwyddiadau erthygl 4(2)) yn gymwys iddo a bod y cyfarwyddyd eisoes wedi dod i rym.

Dirymu

7.  Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Digolledu) (Cymru) 2012 wedi eu dirymu(5).

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru

6 Medi 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi materion amrywiol at ddibenion adran 108 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

Mae adran 108 yn darparu ar gyfer digolledu drwy daliad mewn achosion penodol pan fo caniatâd cynllunio am ddatblygiad a roddwyd drwy orchymyn datblygu neu orchymyn datblygu lleol yn cael ei dynnu'n ôl, a phan fo cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad hwnnw, bod y cais yn cael ei wrthod neu fod y caniatâd yn cael ei roi yn ddarostyngedig i amodau.

Mae adran 108(2A) a (3B) i (3D) (fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/210 (Cy.36)) yn cyfyngu ar yr amgylchiadau pan fo digolledu yn daladwy. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r mathau o ddatblygiad at ddibenion adran 108(2A) a (3C) (rheoliad 2), yn rhagnodi'r dull y mae caniatâd cynllunio i'w dynnu'n ôl (rheoliad 3) ac yn rhagnodi'r dull a'r cyfnod hiraf ar gyfer rhoi hysbysiad o dynnu'n ôl, dirymu, diwygio neu gyfarwyddiadau ynddo (rheoliadau 4 a 5). Mae'r datblygiad rhagnodedig yn awr yn cynnwys gosod cyfarpar microgynhyrchu annomestig.

Mae rheoliad 6 yn ddarpariaeth drosiannol.

Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Digolledu) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/789 (Cy.105)) a ddirymir gan reoliad 7.

Mae asesiad effaith wedi ei baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Mae copïau ar gael gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk

(1)

1990 p.8. Diwygiwyd adran 108 gan adran 13 o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p.34), adran 40(2) a pharagraffau 1 a 6 o Atodlen 6 i Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5), adran 189 o Ddeddf Cynllunio 2008 (p.29), adran 121 a pharagraffau 1 a 15 o Atodlen 12 i Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p.20) ac O.S. 2006/1281. Diwygiwyd is-adrannau 108(2A), (3C), (3D) a (6) gan Orchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/210 (Cy.36)).

(2)

Diwygiwyd adran 108(6) er mwyn rhoi swyddogaethau mewn perthynas â Chymru sy'n arferadwy gan Weinidogion Cymru gan Orchymyn Caniatâd Cynllunio (Tynnu'n ôl Orchymyn Datblygu neu Orchymyn Datblygu Lleol) (Iawndal) (Cymru) 2012.