Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 2091 (Cy.241) (C.83)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Mesur Tai (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2012

Gwnaed

9 Awst 2012

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Tai (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 2) 2012 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw 3 Medi 2012; ac

ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Tai (Cymru) 2011.

Cychwyn Rhan 1 o Fesur Tai (Cymru) 2011 (Atal Dros Dro yr Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig) ar y dyddiad cychwyn

2.  Daw Rhan 1 o'r Mesur (Atal Dros Dro yr Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig) i rym ar y dyddiad cychwyn.

Huw Lewis

Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru

9 Awst 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed gan Weinidogion Cymru, yn cychwyn Rhan 1 (Atal Dros Dro yr Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig) o Fesur Tai (Cymru) 2011 (“y Mesur”) ar 3 Medi 2012.

Caiff awdurdod tai lleol wneud cais i Weinidogion Cymru o dan adran 1 o'r Mesur am gyfarwyddyd i atal dros dro yr hawl i brynu a hawliau cysylltiedig yn ei ardal am gyfnod o hyd at 5 mlynedd, ar yr amod ei fod wedi cwblhau ymgynghoriad yn unol ag adran 2 o'r Mesur o fewn y cyfnod o 6 mis cyn y cais, a'i fod, yng ngoleuni'r ymgynghoriad hwnnw, yn dod i'r casgliad bod y cyflwr o bwysau oherwydd prinder tai (fel a nodir yn adran 1(2) o'r Mesur) yn bodoli.

Dyma'r ail Orchymyn Cychwyn a wnaed o dan y Mesur.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

DarpariaethauY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Rhan 2 o Fesur Tai (Cymru) 2011Daeth y rhan fwyaf o Ran 2 o'r Mesur i rym ar 18 Hydref 2011 a'r gweddill ar 2 Rhagfyr 20112011/2475 (Cy. 267 (C.89))