xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

YR ATODLENNI

ATODLEN 2Ystyriaethau y mae awdurdodau lleol i roi sylw iddynt

RHAN 1Y Plentyn

1.  Unrhyw newid yn statws cyfreithiol y plentyn

2.  Unrhyw risgiau i'r plentyn

3.  P'un a yw'r trefniadau presennol ar gyfer gofal y plentyn yn foddhaol ai peidio.

4.  Cynnydd datblygol y plentyn a p'un a oes angen i'r plentyn fod yn destun unrhyw asesiad pellach mewn perthynas ag anghenion iechyd, neu anghenion cymdeithasol, emosiynol, ymddygiadol neu addysgol.