Rheoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Adolygu Achosion) (Cymru) 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn sefydlu gofynion am sut y mae'n rhaid i awdurdodau lleol adolygu achosion teuluoedd sy'n cael eu cefnogi gan dimau integredig cymorth i deuluoedd (“ICiD”). Nid yw'r gofynion i awdurdod lleol adolygu achos yn gymwys o ran plentyn y mae ei achos eisoes yn ddarostyngedig i adolygiad o dan Reoliadau Adolygu Achosion Plant (Cymru) 2007 (O.S. 2007/307 (Cy.26)) (“y Rheoliadau Adolygu”) yn rhinwedd eu bod “yn derbyn gofal” yn unol â'r diffiniad o “looked after” yn adran 22(1) o Ddeddf Plant 1989.

Mae adran 57 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru)2010 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i sefydlu un neu ragor o dimau ICiD. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ardaloedd awdurdodau lleol y mae adran 57 wedi ei chychwyn mewn perthynas â hwy ac y mae ganddynt ddyletswydd i sefydlu tîm ICiD. Ar y dyddiad y caiff y Rheoliadau hyn eu dwyn i rym mae adran 57 mewn grym mewn perthynas ag ardaloedd yr awdurdodau lleol a ganlyn: Merthyr Tudful, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Wrecsam, Caerdydd a Bro Morgannwg (gweler Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn) 2010 a Gorchymyn Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (Cychwyn Rhif 4) 2012).

Mae rheoliad 2 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol adolygu achosion teuluoedd y mae eu hachosion yn cael eu cefnogi gan dîm ICiD ond mae'n eithrio achosion plant sy'n derbyn gofal.

Mae rheoliad 3 yn nodi pryd y mae'n rhaid adolygu achos am y tro cyntaf a pha mor aml y mae'n rhaid cynnal adolygiadau wedyn. Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol nodi yn ysgrifenedig ei drefniadau i adolygu achosion ac y mae'n ei gwneud yn ofynnol bod awdurdod lleol yn cyd-drefnu'r adolygiad. Ymdrinnir â'r materion i ymdrin â hwy yn yr adolygiad yn Atodlen 1.

Mae rheoliad 5 ac Atodlen 2 yn nodi pob mater y mae'n rhaid i awdurdod lleol ei ystyried wrth adolygu achosion. Mae rheoliad 6 yn nodi'r gofynion ynglŷn â phwy y mae'n rhaid ymgynghori cyn adolygiad, pwy y mae'n rhaid iddo gymryd rhan ynddo a phwy y dylid ei hysbysu wedyn.

Mae rheoliad 7 yn creu dyletswydd i awdurdod lleol weithredu'r penderfyniadau a gymerwyd mewn adolygiad. Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth a ddarperir ar gyfer adolygiad, ynghyd â chofnodion, ac unrhyw benderfyniadau gan adolygiad, yn cael eu cofnodi yn ysgrifenedig.

Mae rheoliad 9 yn dirymu rheoliadau 1 i 8 o Reoliadau Timau Integredig Cymorth i Deuluoedd (Adolygu Achosion) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1700 (Cy.161)) (“Rheoliadau 2010”). Mae rheoliad 9 o Reoliadau 2010, sy'n gwneud diwygiadau i'r Rheoliadau Adolygu, wedi ei gadw. Yr oedd y diwygiadau yn gymwys yn wreiddiol i ardaloedd yr awdurdodau lleol a ganlyn: Merthyr Tudful, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf a Wrecsam. Mae rheoliad 9(2) o'r Rheoliadau hyn yn darparu bod y diwygiadau a wnaed gan Reoliadau 2010 yn gymwys i'r rhannau o Gymru sy'n weddill.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi cael ei baratoi ynglŷn â chostau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan y Gyfarwyddiaeth Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.