2012 Rhif 1905 (Cy.232)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2012

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 9(1)(a), 140(7) ac (8), 142(4) a (5) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 200212 yn gwneud y rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2012.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Medi 2012.

3

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

4

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 20053.

Diwygio'r Prif Reoliadau

2

Mae'r Prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.

3

Yn rheoliad 2, yn y man priodol, mewnosoder —

  • mae i “gorchymyn gofal” yr ystyr a roddir i “care order” yn adran 105(1) o Ddeddf 19894;

4

Yn rheoliad 7 —

a

cyn “Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu”, mewnosoder “(1)”;

b

ar ôl “o ran mabwysiadu” mewnosoder “er mwyn sicrhau bod y panel yn cael ei drefnu'n effeithiol ac yn gweithredu'n effeithlon.”;

c

hepgorer “a rhaid i'r asiantaeth adolygu'r cyfarwyddiadau hynny yn gyson a, phan fydd yn briodol, eu diwygio.”; a

d

mewnosoder fel is-baragraff newydd “(2) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu adolygu'r cyfarwyddiadau yn rheoliad 7(1) yn gyson a'u diwygio pan fo hynny'n briodol.”.

5

Mewnosoder ar ôl rheoliad 8 —

8A

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu sicrhau bod y paneli mabwysiadu'n cael eu cynghori'n gywir gan berson sydd wedi ymgymhwyso'n briodol mewn perthynas â mabwysiadau ag iddynt elfen dramor os oes achos o'r fath yn cael ei ystyried.

6

Yn rheoliad 17 —

a

yn y pennawd, hepgorer “ar gyfer y panel mabwysiadu”,

b

yn lle paragraff (2) rhodder—

2

Mewn achos—

a

lle y mae'r asiantaeth fabwysiadu yn awdurdod lleol ac yn ystyried a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu, a

b

lle y mae naill ai paragraff (2A) neu (2B) yn gymwys,

ni chaiff yr asiantaeth fabwysiadu gyfeirio'r achos at y panel mabwysiadu.

2A

Mae'r paragraff hwn yn gymwys —

a

pan fo'r plentyn wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan yr asiantaeth fabwysiadu neu'n cael llety gan yr awdurdod lleol;

b

pan na fo unrhyw asiantaeth fabwysiadu wedi ei hawdurdodi i leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu, ac

c

pan na fo gan y plentyn riant na gwarcheidwad, neu fod yr asiantaeth yn ystyried bod yr amodau yn adran 31(2) o Ddeddf 1989 wedi eu bodloni o ran y plentyn.

2B

Mae'r paragraff hwn yn gymwys —

a

pan fo cais wedi ei wneud, a heb ei benderfynu, y gellid gwneud gorchymyn gofal yn ei gylch o ran y plentyn, neu

b

pan fo'r plentyn yn ddarostyngedig i orchymyn gofal ac na fo'r asiantaeth fabwysiadu wedi ei hawdurdodi i leoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.

2C

Mewn achos nad yw'n dod o dan baragraff (2), rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu anfon yr wybodaeth a'r adroddiadau y cyfeirir atynt yn (2D) at y panel mabwysiadu.

2D

At ddibenion paragraff (2C) a rheoliad 19(1)(A) yr wybodaeth a'r adroddiadau yw —

i

yr adroddiad ysgrifenedig y cyfeirir ato yn rheoliad 17(1),

ii

yr adroddiad ysgrifenedig ar gyflwr iechyd y plentyn y cyfeirir ato yn rheoliad 15(2)(b), oni bai bod yr asiantaeth fabwysiadu wedi derbyn cyngor gan y cynghorydd meddygol yn nodi nad oes angen adroddiad o'r fath, a

iii

yr wybodaeth am iechyd rhieni naturiol y plentyn.

7

Yn rheoliad 19 —

a

ym mharagraff (1), ar y dechrau mewnosoder “Mewn unrhyw achos sy'n dod o dan reoliad 17(2C)”, a

b

ar ôl paragraff (1) mewnosoder —

1A

Mewn unrhyw achos sy'n dod o dan reoliad 17(2) rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ystyried yr wybodaeth a'r adroddiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 17(2D), ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall, wrth ddod i benderfyniad ynghylch a ddylai'r plentyn gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu

Dirymu8

Mae rheoliad 9 o Reoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007 wedi ei ddirymu5.

Darpariaeth drosiannol9

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys —

a

pan fo asiantaeth fabwysiadu wedi cyfeirio achos at y panel mabwysiadu cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, a

b

pan fo'r achos yn dod o fewn rheoliad 17(2) o'r Prif Reoliadau.

2

Mewn achos lle y mae'r wybodaeth a'r adroddiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 17(2D) o'r Prif Reoliadau wedi eu hanfon at y panel mabwysiadu ond bod y panel mabwysiadu heb gyfarfod i ystyried yr achos cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu dynnu'r wybodaeth a'r adroddiadau yn ôl oddi wrth y panel a mynd ati i wneud penderfyniad yn unol â rheoliad 19(1A) o'r Prif Reoliadau.

3

Mewn achos lle y mae'r wybodaeth a'r adroddiadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 17(2D) o'r Prif Reoliadau wedi eu hanfon at y panel mabwysiadu a bod y panel wedi cyfarfod i ystyried yr achos cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, a'i fod —

a

wedi penderfynu pa argymhelliad i'w wneud ond heb gyfleu'r argymhelliad hwnnw i'r asiantaeth fabwysiadu, neu

b

yn aros i gael rhagor o wybodaeth oddi wrth yr asiantaeth fabwysiadu yn unol â rheoliad 18(2)(b) o'r Prif Reoliadau, neu gyngor cyfreithiol yn unol â rheoliad 18(2)(c) o'r Prif Reoliadau,

rhaid i'r panel mabwysiadu fynd ati i wneud ei argymhelliad yn unol â rheoliad 18 o'r Prif Reoliadau, a rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ystyried yr argymhelliad hwnnw yn unol â rheoliad 19(1) o'r Prif Reoliadau, fel pe na bai'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.

Gwenda ThomasY Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 (“y Prif Reoliadau”), sy'n gwneud darpariaeth ynghylch yr arfer gan asiantaethau mabwysiadu (sef, awdurdodau lleol a chymdeithasau mabwysiadu cofrestredig) o'u swyddogaethau o ran mabwysiadu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002. Deuant i rym ar 1 Medi 2012.

Mae'r Prif Reoliadau yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i asiantaeth fabwysiadu, wrth ystyried mabwysiadu ar gyfer plentyn, gyfeirio'r achos at banel mabwysiadu a fydd wedyn yn gorfod gwneud argymhelliad i'r asiantaeth ynghylch a ddylid lleoli'r plentyn ar gyfer ei fabwysiadu.

Mae Adran 22(1) a (2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol, pan fo'n penderfynu y dylai plentyn gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu, a bod y meini prawf a nodwyd yn y naill ddarpariaeth neu'r llall wedi eu bodloni, wneud cais i'r llys am orchymyn lleoliad.

Mae'r Rheoliadau hyn yn newid y broses mewn achosion lle y mae'r awdurdod lleol, fel yr asiantaeth fabwysiadu, yn ystyried a ddylai plentyn gael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu o dan amgylchiadau lle, os ydynt yn penderfynu y dylai plentyn gael ei leoli felly, y mae'r penderfyniad hwnnw yn peri cychwyn y ddyletswydd o dan adran 22(1) neu adran 22(2) i wneud cais am orchymyn lleoliad. Yn yr achosion hynny mae'r asiantaeth fabwysiadu bellach wedi ei hatal rhag cyfeirio'r achos at y panel mabwysiadu cyn gwneud ei phenderfyniad.

Mae Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005 yn gwneud darpariaeth o ran Lloegr ynghylch arfer swyddogaethau asiantaethau mabwysiadu mewn perthynas â mabwysiadu. Gwneir diwygiadau sy'n cyfateb i'r Rheoliadau hynny a byddant yn effeithiol o 1 Medi 2012 ymlaen. Bydd y diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Mabwysiadau ag iddynt Elfen Dramor 2005 yn dod i rym hefyd ar y dyddiad hwn.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu rheoliad 9 o Reoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007. Ac eithrio rheoliad 9(1)(b) a 9(1)(c), mae rheoliad 9 yn gosod yr un dyletswyddau ar awdurdodau lleol ag a osodwyd arnynt fel asiantaethau mabwysiadu yn y Prif Reoliadau. I'r graddau nad yw'r gofynion yn rheoliad 9(1)(b) (ynghylch polisïau ysgrifenedig ar gyfer paneli mabwysiadu) eisoes wedi eu hadlewyrchu yn rheoliad 7 o'r Prif Reoliadau, mae rheoliad 7 wedi ei ddiwygio'n unol â hynny. Mae'r ddyletswydd a ddisgrifir yn rheoliad 9(1)(c) (cyngor mewn achosion ag iddynt elfen dramor) wedi ei gosod ar asiantaethau mabwysiadu drwy fewnosod rheoliad 8A yn y Prif Reoliadau.

Ni luniwyd asesiad effaith ar gyfer y Rheoliadau hyn, gan na ragwelir y byddant yn effeithio ar y sector preifat, y sector gwirfoddol na'r sector cyhoeddus.