Cynllun Corfforaethol
21.—(1) Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, rhaid i'r Corff—
(a)llunio cynllun gan nodi sut y mae'n bwriadu cyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn ariannol ganlynol, a
(b)cyflwyno'r cynllun i Weinidogion Cymru ei ystyried.
(2) Yn y paragraff hwn—
(a)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, a
(b)blwyddyn ariannol gyntaf y Corff yw'r cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar yr ail 31 Mawrth ar ôl i'r Corff gael ei sefydlu.