Gweithdrefn
16.—(1) Caiff y Corff benderfynu ei weithdrefn ei hun (gan gynnwys cworwm) a gweithdrefn ei bwyllgorau a'i is-bwyllgorau.
(2) Caiff y Corff awdurdodi ei bwyllgorau a'i is-bwyllgorau i benderfynu eu gweithdrefn eu hunain (gan gynnwys cworwm).
(3) Ond os yw penderfyniad o dan y paragraff hwn yn darparu ar gyfer cworwm unrhyw gyfarfod, ni ellir bodloni'r cworwm oni bai bod y rhan fwyaf o'r aelodau sy'n bresennol yn aelodau anweithredol.