Cydnabyddiaeth ariannol a phensiynau etc aelodau
10.—(1) Rhaid i'r Corff dalu i'r aelodau anweithredol ac unrhyw ddirprwy gadeirydd y fath gydnabyddiaeth ariannol a'r lwfansau ag a benderfynir gan Weinidogion Cymru.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru wneud penderfyniadau gwahanol o dan yr erthygl hon mewn achosion gwahanol.