2012 Rhif 1903 (Cy.230)

CYRFF CYHOEDDUS, CYMRU
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 13(7) a 15(1) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 20111 (“y Ddeddf”), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol ag adran 16 o'r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru o'r farn—

a

wedi iddynt roi sylw i'r ffactorau a nodir yn adran 16(1) o'r Ddeddf, bod y Gorchymyn hwn yn ateb y diben o wella'r broses o arfer swyddogaethau cyhoeddus;

b

nad yw'r Gorchymyn hwn yn dileu unrhyw ddiogelwch angenrheidiol nac yn atal unrhyw berson rhag parhau i arfer unrhyw hawl neu ryddid y gallai'r person hwnnw ddisgwyl yn rhesymol barhau i'w harfer neu i'w arfer.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal ymgynghoriad yn unol ag adran 18 o'r Ddeddf.

Mae drafft o'r Gorchymyn hwn a dogfen esboniadol sy'n cynnwys yr wybodaeth sy'n ofynnol o dan adran 19(2) o'r Ddeddf wedi eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 19(1) ar ôl diwedd y cyfnod o ddeuddeng wythnos a grybwyllir yn adran 19(3).

Yn unol ag adran 19(4) o'r Ddeddf, mae'r drafft o'r Gorchymyn hwn fel y'i gosodwyd wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl diwedd y cyfnod o 40 niwrnod y cyfeirir ato yn y ddarpariaeth honno.