xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
6.—(1) Mae gan y Corff y swyddogaethau a nodir yn is-baragraffau (a) a (b)—
(a)y swyddogaeth o hwyluso'r gwaith o weithredu unrhyw un o gynigion Gweinidogion Cymru ar gyfer trosglwyddo unrhyw un o'r canlynol (wedi ei addasu neu beidio) i'r Corff—
(i)unrhyw un o swyddogaethau Cyngor Cefn Gwlad Cymru;
(ii)unrhyw un o swyddogaethau Asiantaeth yr Amgylchedd neu'r Comisiynwyr Coedwigaeth sydd wedi ei datganoli i Gymru(1);
(iii)unrhyw un o swyddogaethau un o Bwyllgorau Llifogydd ac Arfordir Cymru(2);
(iv)unrhyw un o'u swyddogaethau eu hunain sy'n ymwneud â'r amgylchedd; neu
(v)unrhyw swyddogaeth amgylcheddol Gymreig(3) unrhyw berson;
(b)y swyddogaeth o hwyluso'r gwaith o weithredu unrhyw un o gynigion eraill Gweinidogion Cymru a wnaed mewn cysylltiad ag unrhyw gynigion sy'n dod o fewn is-baragraff (a)—
(i)sy'n ymwneud â phwnc y cynigion hynny, neu
(ii)sy'n ganlyniad neu'n atodol i'r cynigion hynny neu sy'n gysylltiedig â hwy, neu sy'n ymwneud â materion trosiannol.
(2) Mae paragraff (1) yn gymwys i gynnig gan Weinidogion Cymru ni waeth a yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu unrhyw berson neu gorff arall wedi rhoi unrhyw gydsyniad neu gymeradwyaeth y mae, yn ôl y gyfraith, gweithredu'r cynnig hwnnw yn dibynnu arni, ond nid yw'n dileu'r angen i gael unrhyw gydsyniad neu gymeradwyaeth o'r fath cyn y gellir gweithredu'r cynnig.
Gweler adran 36(1) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011 (p.24).
Gweler adran 13(8) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011.
Gweler adran 36(1) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus 2011.