xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
5.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru roi canllawiau i'r Corff o ran y modd y dylai arfer ei swyddogaethau er mwyn rhoi effaith i'w ddiben.
(2) Wrth lunio unrhyw ganllawiau o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i gyfrifoldebau ac adnoddau'r Corff.
(3) Wrth gyflawni ei swyddogaethau, rhaid i'r Corff roi sylw i'r canllawiau a roddir o dan yr erthygl hon.
(4) Cyn rhoi canllawiau i'r Corff o dan yr erthygl hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Corff ac unrhyw gyrff neu bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau a roddir o dan yr erthygl hon cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi'r canllawiau.
(6) Mae'r pŵer i roi canllawiau o dan yr erthygl hon yn cynnwys pŵer i'w hamrywio neu i'w dirymu.