Offerynnau Statudol Cymru
DIOGELU'R ARFORDIR, CYMRU
DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU
RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD, CYMRU
Gwnaed
10 Gorffennaf 2012
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(1)
Mae Gweinidogion Cymru, mewn perthynas â dynodi adeileddau neu nodweddion yng Nghymru a chan arfer y pwerau a roddir gan adrannau 30 a 48(2) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010(1) a pharagraff 15 o Atodlen 1 i'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol.
Mae drafft o'r Rheoliadau hyn wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â pharagraff 15(5) o Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.
Ymgynghorwyd â'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd, ac y mae'r Cyngor hwnnw wedi ymgynghori â Phwyllgor Cymreig y Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd yn unol ag adran 44 o Ddeddf y Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodaeth 2007(2) a pharagraff 24 o Atodlen 7 iddi.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dynodi Nodweddion (Apelau) (Cymru) 2012, a deuant i rym ar y diwrnod sy'n dilyn y dyddiad y'u gwnaed.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran dynodi adeileddau neu nodweddion yng Nghymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Atodlen 1” (“Schedule 1”) yw Atodlen 1 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010;
ystyr “hysbysiad gorfodi” (“enforcement notice”) yw hysbysiad gorfodi a roddir o dan baragraff 11 o Atodlen 1; ac
ystyr “penderfyniad cydsynio” (“consent decision”) yw penderfyniad mewn cysylltiad â chydsynio, ar gais o dan baragraff 6 o Atodlen 1.
3.—(1) Caiff perchennog(3) y rhoddir hysbysiad iddo o dan baragraff 8(1) o Atodlen 1 apelio ar unrhyw sail i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn y dynodiad.
(2) Wrth benderfynu apêl o dan baragraff (1), rhaid i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf naill ai gadarnhau neu ddiddymu'r dynodiad.
4.—(1) Caiff perchennog, y rhoddir iddo hysbysiad o benderfyniad cydsynio, apelio ar unrhyw sail i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn y penderfyniad.
(2) At ddibenion paragraff (1), os nad yw awdurdod cyfrifol, ar ddiwedd diwrnod olaf y cyfnod hysbysu, wedi rhoi i berchennog hysbysiad o benderfyniad cydsynio a wnaed gan yr awdurdod, rhagdybir bod yr awdurdod cyfrifol wedi rhoi i'r perchennog, ar y diwrnod hwnnw, hysbysiad, sy'n gwrthod cydsynio.
(3) Wrth benderfynu apêl o dan baragraff (1), rhaid i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf naill ai gadarnhau'r penderfyniad cydsynio neu ei amnewid.
(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfnod hysbysu” (“notice period”) yw'r cyfnod o 2 fis sy'n dechrau gyda'r diwrnod sy'n dilyn y diwrnod pan fo awdurdod cyfrifol yn cael cais am gydsyniad o dan baragraff 6 o Atodlen 1.
5.—(1) Caiff perchennog, y rhoddir iddo hysbysiad bod cais wedi ei wrthod, apelio ar unrhyw sail i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn y gwrthodiad i ddiddymu'r dynodiad.
(2) At ddibenion paragraff (1), os nad yw awdurdod cyfrifol, ar ddiwedd diwrnod olaf y cyfnod hysbysu, wedi rhoi i'r perchennog hysbysiad o benderfyniad a wnaed gan yr awdurdod ynglŷn â chais, rhagdybir bod yr awdurdod cyfrifol wedi rhoi i'r perchennog, ar y diwrnod hwnnw, hysbysiad sy'n gwrthod y cais.
(3) Wrth benderfynu apêl o dan baragraff (1), rhaid i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf naill ai gadarnhau'r gwrthodiad neu ddiddymu'r dynodiad.
(4) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cais” (“application”) yw cais o dan baragraff 9 o Atodlen 1; ac
ystyr “cyfnod hysbysu” (“notice period”) yw'r cyfnod o 2 fis sy'n dechrau gyda'r diwrnod sy'n dilyn y diwrnod pan fo awdurdod cyfrifol yn cael cais.
6.—(1) Caiff person, y rhoddir iddo hysbysiad gorfodi, apelio ar unrhyw sail i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf yn erbyn yr hysbysiad.
(2) Wrth benderfynu apêl o dan baragraff (1), rhaid i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf naill ai—
(a)cadarnhau'r hysbysiad gorfodi; neu
(b)penderfynu bod yr hysbysiad yn peidio â chael effaith.
John Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy, un o Weinidogion Cymru
10 Gorffennaf 2012
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
O dan adran 30 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29) (“y Ddeddf”) ac Atodlen 1 i'r Ddeddf honno, caiff Asiantaeth yr Amgylchedd, awdurdod lleol neu fwrdd draenio mewnol (yr “Awdurdod Dynodi”) ddynodi adeileddau neu nodweddion amgylcheddol sy'n effeithio ar y risg o lifogydd neu erydu arfordirol, hyd yn oed os nad yw'r adeileddau neu nodweddion wedi eu cynllunio neu eu hadeiladu ar gyfer y diben hwnnw.
Unwaith y bydd wedi ei dynodi, ni chaiff perchennog y nodwedd ddynodedig ei haddasu, ei thynnu ymaith na'i hamnewid heb ganiatâd. Mae paragraff 15 o Atodlen 1 i'r Ddeddf yn gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn darparu hawl apelio ar gyfer y bobl yr effeithir arnynt pan ddefnyddir y pwerau dynodi hyn gan Awdurdod Dynodi.
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu hawl apelio yn erbyn—
(a)dynodiadau a hysbysiadau gorfodi o dan Atodlen 1 i'r Ddeddf; a
(b)penderfyniadau cysylltiedig a wneir o dan baragraffau 6 a 9 o'r Atodlen honno.
Maent yn rhoi i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf awdurdodaeth i ystyried apelau a wneir o dan y Rheoliadau hyn. Maent yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweithdrefn ac ar gyfer pwerau Tribiwnlys yr Haen Gyntaf wrth iddo benderfynu'r apêl.
Mae apelau a wneir o dan y Rheoliadau hyn, a'r broses o ddwyn apêl yn cael eu llywodraethu hefyd gan Reolau Gweithdrefn y Tribiwnlysoedd (Tribiwnlys yr Haen Gyntaf) (Y Siambr Reoleiddio Gyffredinol) 2009 (O.S. 2009/1976).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddiannau tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ohono gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2010 p.29. Mae paragraff 15 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 yn rhoi pwerau i “the Minister”, a diffinnir “the Minister” at ddibenion yr Atodlen honno ym mharagraff 17 o Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.
Gweler paragraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29) ar gyfer ystyr “perchennog”.