2012 Rhif 1765 (Cy.225)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2012

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 16(1)(e) ac 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901 ac adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno2.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion yr adran honno o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd3.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad at offeryn UE a ddiffinnir yn Atodlen 1 gael ei ddehongli yn unol â rheoliad 2(3) fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd4, ymgynghorwyd yn agored a thryloyw â'r cyhoedd wrth baratoi'r Rheoliadau canlynol.

Enwi a chychwyn1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2012 a deuant i rym ar 30 Gorffennaf 2012.

Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 20062

1

Diwygir Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 20065 yn unol â pharagraffau (2) i (6).

2

Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) yn lle'r cyfeiriadau at offerynnau UE sy'n ymddangos yn union ar ôl y diffiniad o “mangre” rhodder y cyfeiriadau canlynol—

  • mae i “Penderfyniad 2006/766” (“Decision 2006/766”), “Penderfyniad 2011/131” (“Decision 2011/131”), “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”), “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”), “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”), “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”), “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”), “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”), “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”), “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”), “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”), “Rheoliad 1020/2008” (“Regulation 1020/2008”), “Rheoliad 1021/2008” (“Regulation 1021/2008”), “Rheoliad 219/2009” (“Regulation 219/2009”), “Rheoliad 596/2009” (“Regulation 596/2009”), “Rheoliad 669/2009” (“Regulation 669/2009”), “Rheoliad 1162/2009” (“Regulation 1162/2009”), “Rheoliad 739/2011” (“Regulation 739/2011”), “Rheoliad 809/2011” (“Regulation 809/2011”), “Rheoliad 880/2011” (“Regulation 880/2011”), “Rheoliad 1086/2011” (“Regulation 1086/2011”), “Rheoliad 1109/2011” (“Regulation 1109/2011”), “Rheoliad 1169/2011” (“Regulation 1169/2011”), “Rheoliad 1223/2011” (“Regulation 1223/2011”), “Rheoliad 1277/2011” (“Regulation 1277/2011”), “Rheoliad 16/2012” (“Regulation 16/2012”) a “Rheoliad 28/2012” (“Regulation 28/2012”) yr ystyr a roddir iddynt, yn eu trefn, yn Atodlen 1;

3

Yn union ar ôl paragraff (5) o reoliad 2, mewnosoder y paragraff canlynol—

6

Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at offeryn UE a ddiffinnir yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y diwygir unrhyw atodiad iddo o bryd i'w gilydd.

4

Yn union ar ôl rheoliad 32 (cyfyngiadau ar werthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl a diwygiadau i Reoliadau Labelu Bwyd 1996) mewnosoder y rheoliad canlynol—

Marc iechyd arbennig32A

Rhaid i'r marc iechyd arbennig y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Bennod VI o Adran I o Atodiad III i Reoliad 853/2004 a pharagraff 7 o Bennod III o Adran I o Atodiad I i Reoliad 854/2004 gydymffurfio ag Atodlen 6A.

5

Yn lle Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth UE) rhodder yr Atodlen a osodir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

6

Yn union ar ôl Atodlen 6 (cyfyngiadau ar werthu llaeth crai a fwriedir ar gyfer ei yfed yn uniongyrchol gan bobl) mewnosoder yr Atodlen a osodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

Lesley GriffithsY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

ATODLEN 1YR ATODLEN A RODDIR YN LLE ATODLEN 1 I REOLIADAU HYLENDID BWYD (CYMRU) 2006

Rheoliad 2(5)

ATODLEN 1DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH UE

Rheoliad 2(1)

  • Ystyr “Penderfyniad 2006/766” (“Decision 2006/766”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2006/766/EC sy'n sefydlu rhestrau o drydydd gwledydd a thiriogaethau y caniateir mewnforio ohonynt folysgiaid deufalf, ecinodermiaid, tiwnigogion, gastropodau morol a chynhyrchion pysgodfeydd6, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad 2011/131;

  • Ystyr “Penderfyniad 2011/131” (“Decision 2011/131”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2011/131/EU sy'n diwygio Atodiad II i Benderfyniad 2006/766/EC sy'n ymwneud â chynnwys Fiji yn y rhestr o drydydd gwledydd a thiriogaethau y caniateir mewnforio cynhyrchion pysgodfeydd ohonynt ar gyfer eu bwyta gan bobl7;

  • Ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu rhai cyfarwyddebau ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu, a rhoi ar y farchnad, rhai cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC8;

  • Ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd9, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 596/2009;

  • Ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd10, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 219/2009 ac fel y'i darllenir ynghyd â Rheoliad 2073/2005;

  • Ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n tarddu o anifeiliaid11, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 16/2012 ac fel y'i darllenir ynghyd â Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2076/2005, Rheoliad 1020/2008 a Rheoliad 1162/2009;

  • Ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl12, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 739/2011 ac fel y'i darllenir ynghyd â Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2075/2005, Rheoliad 2076/2005, Penderfyniad 2006/766, Rheoliad 1021/2008 a Rheoliad 1162/2009;

  • Ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a wneir i sicrhau y gwirir cydymffurfiaeth â chyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid13, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 880/2011 ac fel y'i darllenir ynghyd â Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 669/2009 a Rheoliad 1162/2009;

  • Ystyr “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer traddodi cig ac wyau penodol i'r Ffindir a Sweden14, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1223/2011;

  • Ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar griteria microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd15, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1086/2011;

  • Ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/200416, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 809/2011;

  • Ystyr “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodol ynghylch rheolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig17, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1109/2011;

  • Ystyr “Rheoliad 1020/2008” (“Regulation 1020/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1020/2008 sy'n diwygio Atodiadau II a III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n tarddu o anifeiliaid a Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 o ran marciau adnabod, llaeth crai a chynhyrchion llaeth, wyau a chynhyrchion wyau a chynhyrchion pysgodfeydd penodol18;

  • Ystyr “Rheoliad 1021/2008” (“Regulation 1021/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1021/2008 sy'n diwygio Atodiadau I, II a III i Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl a Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 o ran molysgiaid deufalf byw, cynhyrchion pysgodfeydd penodol a staff sy'n cynorthwyo â'r rheolaethau swyddogol mewn lladd-dai19;

  • Ystyr “Rheoliad 219/2009” (“Regulation 219/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 219/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Dau20;

  • Ystyr “Rheoliad 596/2009” (“Regulation 596/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn addasu nifer o offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasiad i'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Pedwar21, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1169/2011;

  • Ystyr “Rheoliad 669/2009” (“Regulation 669/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2009 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch y cynnydd yn lefel y rheolaethau swyddogol ar fewnforio bwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol nad yw'n tarddu o anifeiliaid ac yn diwygio Penderfyniad 2006/504/EC22, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1277/2011;

  • Ystyr “Rheoliad 1162/2009” (“Regulation 1162/2009”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1162/2009 sy'n gosod mesurau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor23, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 28/2012 ac fel y'i darllenir ynghyd ag ail is-baragraff Erthygl 54(3) o Reoliad 1169/2011;

  • Ystyr “Rheoliad 739/2011” (“Regulation 739/2011”) yw Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 739/2011 sy'n diwygio Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl24;

  • Ystyr “Rheoliad 809/2011 (“Regulation 809/2011”) yw Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 809/2011 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 o ran dogfennau sy'n mynd gyda mewnforion o gynhyrchion pysgodfeydd sydd wedi eu rhewi ac sy'n dod yn uniongyrchol o lestr rhewi25;

  • Ystyr “Rheoliad 880/2011” (“Regulation 880/2011”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 880/2011 sy'n cywiro Rheoliad (EU) Rhif 208/2011 sy'n diwygio Atodiad VII i Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliadau'r Comisiwn (EC) Rhif 180/2008 ac (EC) Rhif 737/2008 o ran rhestrau o labordai cyfeirio UE a'u henwau26;

  • Ystyr “Rheoliad 1086/2011” (“Regulation 1086/2011”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 1086/2011 sy'n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac Atodiad I i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 o ran salmonella mewn cig dofednod ffres27;

  • Ystyr “Rheoliad 1109/2011” (“Regulation 1109/2011”) yw Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 1109/2011 sy'n diwygio Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 2075/2005 o ran y dulliau cyfwerth o brofi am Trichinella28;

  • Ystyr “Rheoliad 1169/2011” (“Regulation 1169/2011”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr, sy'n diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 1924/2006 ac (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor, ac yn diddymu Cyfarwyddeb y Comisiwn 87/250/EEC, Cyfarwyddeb y Cyngor 90/496/EEC, Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/10/EC, Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor, Cyfarwyddebau'r Comisiwn 2002/67/EC a 2008/5/EC a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 608/200429;

  • Ystyr “Rheoliad 1223/2011” (“Regulation 1223/2011”) yw Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 1223/2011 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1688/2005 o ran samplu'r heidiau y mae wyau'n tarddu ohonynt ac archwiliadau microbiolegol o samplau o'r fath a samplau o gig penodol a fwriedir ar gyfer y Ffindir a Sweden30;

  • Ystyr “Rheoliad 1277/2011” (“Regulation 1277/2011”) yw Rheoliad Gweithredu'r Comisiwn (EU) Rhif 1277/2011 sy'n diwygio Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 669/2009 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y lefel uwch o reolaethau swyddogol ar fewnforio bwyd anifeiliaid penodol a bwyd penodol nad yw'n tarddu o anifeiliaid31;

  • Ystyr “Rheoliad 16/2012” (“Regulation 16/2012”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 16/2012 sy'n diwygio Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran y gofynion sy'n ymwneud â bwyd wedi ei rewi, sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir ar ei fwyta gan bobl32;

  • Ystyr “Rheoliad 28/2012” (“Regulation 28/2012”) yw Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 28/2012 sy'n gosod gofynion ardystio ar gyfer mewnforio cynhyrchion cyfansawdd penodol i'r Undeb, a chludo'r cynhyrchion hynny drwyddo, ac sy'n diwygio Penderfyniad 2007/275/EC a Rheoliad (EC) Rhif 1162/200933.

ATODLEN 2YR ATODLEN SYDD I'W MEWNOSOD YN UNION AR ÔL ATODLEN 6 I REOLIADAU HYLENDID BWYD (CYMRU) 2006

Rheoliad 2(6)

ATODLEN 6AY MARC IECHYD ARBENNIG

Rheoliad 32A

1

Rhaid i farc iechyd arbennig fod yn farc sgwâr gyda'r nodau canlynol mewn ffurf ddarllenadwy arno:

  • ar y rhan uchaf, y llythrennau “UK”;

  • yn y canol, rhif cymeradwyo'r fangre; ac

  • ar y rhan isaf, y llythyren “N”.

2

Pan osodir y marc iechyd arbennig ar garcasau, rhaid i'r marc fesur 5.5 cm wrth 5.5 cm a rhaid i uchder y llythrennau sydd arno fod yn 0.8 cm ac uchder y rhifau yn 1 cm. Caniateir i ddimensiynau a nodau'r marc fod yn llai pan osodir y marc iechyd ar ŵyn, mynnod gafr a pherchyll.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/31 (Cy.5), fel y'i diwygiwyd eisoes) (“Rheoliadau 2006”), drwy ddiweddaru'r diffiniadau o offerynnau UE penodol y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hynny a darparu y bydd cyfeiriad at yr offerynnau UE hynny yn gyfeiriad atynt wrth i unrhyw atodiad iddynt gael ei ddiwygio o bryd i'w gilydd.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2006 i ddiweddaru'r diffiniadau o offerynnau UE penodol drwy—

a

rhoi diffiniadau o offerynnau UE penodol yn lle'r diffiniadau presennol o offerynnau UE sy'n ymddangos ar ôl y diffiniad o “mangre” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) (rheoliad 2(2));

b

ychwanegu darpariaeth bod unrhyw gyfeiriad at offeryn UE a ddiffinnir yn Atodlen 1 yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y diwygir unrhyw atodiad iddo o bryd i'w gilydd (rheoliad 2(3)); ac

c

rhoi Atodlen 1 ddiwygiedig (diffiniadau o ddeddfwriaeth UE) yn lle'r Atodlen 1 bresennol (rheoliad 2(5)).

3

Yn ychwanegol, mae'r Rheoliadau hyn yn pennu ffurf a maint y marc iechyd arbennig sydd i'w osod ar gig sy'n deillio o anifeiliaid sydd wedi eu cigydda mewn argyfwng y tu allan i'r lladd-dy (rheoliad 2(4) a (6) ac Atodlen 2).

4

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ohono gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Tŷ Southgate, Caerdydd, CF10 1EW.