- Latest available (Revised)
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Wales Statutory Instruments are not carried in their revised form on this site.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu (Gwaddolion Addysgol) (Llandegley) (Cymru) 2012, a daw i rym ar 1 Awst 2012.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn y Gorchymyn hwn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—
ystyr “asedau'r Sefydliad” (“the Foundation assets”) yw'r asedau sy'n cynrychioli'r Gwaddol ar hyn o bryd;
ystyr “yr Esgobaeth” (“the Diocese”) yw Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu, a rhaid dehongli “yr Ymddiriedolaeth Esgobaethol” (“the Diocesan Trust”) yn unol â hynny;
ystyr “y Gwaddol” (“the Endowment”) yw'r gwaddol a gynhwyswyd yn y weithred Sefydlu;
ystyr “y Sefydliad” (“the Foundation”) yw'r sefydliad addysgol a adwaenid fel Sefydliad Ysgol Llandeglau (a adwaenid yn ddiweddarach fel Neuadd Bentref Llandeglau) a sefydlwyd gan y weithred Sefydlu;
ystyr “y weithred Sefydlu” (“the Founding deed”) yw'r weithred dyddiedig 11 March 1869 ac y credir iddi gael ei gwneud rhwng tenantiaid y clastir rheithorol a pherchnogion degymau i Reithor, Ficer a Wardeiniaid Eglwys Llandeglau;
mae i “ysgol sefydledig” (“foundation school”) yr ystyr a roddir i “foundation school” yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1); ac y
mae i “ysgol wirfoddol” (“voluntary school”) yr ystyr a roddir i “voluntary school” yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
3.—(1) Mae'r Gorchymyn hwn yn penodi'r Ymddiriedolaeth Esgobaethol i fod yn Ymddiriedolwr—
(a)y Sefydliad; a
(b)asedau'r Sefydliad.
(2) Rhaid trosglwyddo i'r Ymddiriedolaeth Esgobaethol yr holl gronfeydd sydd, yn union cyn dyddiad y Gorchymyn hwn, yn eiddo i'r Sefydliad, neu a ddelir mewn ymddiriedolaeth ar gyfer y Sefydliad (ac eithrio unrhyw gronfeydd a ddelir eisoes gan yr Ymddiriedolaeth Esgobaethol), a rhaid i unrhyw berson sy'n dal cronfeydd o'r fath gyflawni pob gweithred sy'n angenrheidiol at y diben o'u trosglwyddo.
4.—(1) Awdurdodir yr Ymddiriedolaeth Esgobaethol i werthu unrhyw eiddo rhydd-ddaliadol neu lesddaliadol sy'n gynwysedig yn asedau'r Sefydliad, a rhaid iddi, hyd nes gwerthir eiddo o'r fath, ei osod a'i reoli fel arall yn unol â'r gyfraith gyffredinol sy'n gymwys i reolaeth eiddo a ddelir mewn ymddiriedolaeth at ddibenion elusennol.
(2) Rhaid i'r Ymddiriedolaeth Esgobaethol ddal asedau'r Sefydliad ar yr ymddiriedolaethau statudol unffurf, er budd ysgolion gwirfoddol neu ysgolion sefydledig yr Eglwys yng Nghymru o fewn yr Esgobaeth.
(3) Yn yr erthygl hon ystyr “ymddiriedolaethau statudol unffurf” (“uniform statutory trusts”) yw'r ymddiriedolaethau a bennir yn yr Atodlen (sef yr ymddiriedolaethau statudol unffurf a bennir yn Atodlen 36 i Ddeddf Addysg 1996 fel y maent yn gymwys mewn perthynas ag asedau'r Sefydliad.
5. Caniateir cyfuno asedau'r Sefydliad gydag unrhyw waddol presennol a ddelir at y dibenion a bennir yn yr Atodlen.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
27 Mehefin 2012
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English:The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: