xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
TRAFFIG FFYRDD, CYMRU
Gwnaed
13 Mehefin 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
15 Mehefin 2012
Yn dod i rym
1 Awst 2012
Gwneir y Gorchymyn hwn gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pŵer a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan baragraff 8(1) o Atodlen 8 a pharagraff 3(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i Orchymyn gael ei wneud o dan y pwerau hyn mewn perthynas â rhan o'i ardal.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â phrif swyddog Heddlu De Cymru yn unol â gofynion paragraff 8(3) o Atodlen 8 a pharagraff 3(4) o Atodlen 10 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf) 2012.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Awst 2012 ac mae'n gymwys o ran Cymru.
2. Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn—
(a)ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b)ardal gorfodi arbennig.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru
13 Mehefin 2012
Erthygl 2
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Fwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn gyfan ac eithrio—
(a)y darn hwnnw o'r A465 o'r ffin â Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wrth bwynt sydd tua 15 o fetrau i'r dwyrain o'i chyffordd â'r B4276 Merthyr Road, i'r ffin â Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wrth bwynt sydd tua 1809 o fetrau i'r dwyrain o ffordd ymadael tua'r gorllewin Glyn-nedd;
(b)y darn hwnnw o'r A470 o'r ffin â Dinas a Sir Caerdydd wrth bwynt sydd tua 237 o fetrau i'r gogledd o ganol cylchfan yr A470/A4054/B4262 Ynys Bridge, Ffynnon Taf, i'r ffin â Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wrth bwynt sydd tua 220 o fetrau i'r de o drosbont Goitre-Coed Road.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi'r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen yn ardal gorfodi sifil ac yn ardal gorfodi arbennig at ddibenion Rhan 6 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004. Effaith ymarferol y Gorchymyn yw galluogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i orfodi'r gyfraith ar dramgwyddau parcio o fewn yr ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn drwy gyfundrefn cyfraith sifil, mewn cyferbyniad â gorfodi'r gyfraith gan yr heddlu neu wardeiniaid traffig yng nghyd-destun y gyfraith droseddol.
Gellir cael Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol gan y Gangen Orchmynion, Trafnidiaeth, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru, Swyddfeydd y Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn
Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Yn rhinwedd adran 92 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004, dynodwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awdurdod cenedlaethol priodol o ran Cymru, at ddibenion Rhan 6 o'r Ddeddf honno.