Search Legislation

Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2012

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 1518 (Cy.201)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2012

Gwnaed

12 Mehefin 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

15 Mehefin 2012

Yn dod i rym

1 Awst 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2):

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2012.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Awst 2012.

Cymhwyso

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru a darparu cymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad â'r Flwyddyn Academaidd 2012/ 2013.

Dehongli

3.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i'r ymadrodd “yr Atebolrwydd sydd heb ei dalu” (“the Outstanding Liability”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 7;

ystyr “benthyciad at gostau byw” (“loan for living costs”) yw benthyciad a geir oddi wrth Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â'r Flwyddyn Academaidd 2012/13 o dan reoliadau a wneir yn unol ag adran 22 o Ddeddf 1998(3);

ystyr “y benthyciwr” (“the borrower”) yw person sydd wedi cael benthyciad at gostau byw gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â'r Flwyddyn Academaidd 2012/13;

ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau ar 1 Medi, 1 Ionawr, 1 Ebrill neu 1 Gorffennaf yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw'r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst ond cyn 1 Ionawr, ar neu ar ôl 1 Ionawr ond cyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill ond cyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf ond cyn 1 Awst;

ystyr “Blwyddyn Academaidd 2012/2013” (“Academic Year 2012/2013”) yw blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012 ond cyn 1 Medi 2013;

ystyr “Deddf 1998” (“The 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Gwerthu Benthyciadau Myfyrwyr 2008(4);

ystyr “y Dyddiad Ad-dalu” (“the Repayment Date”) yw'r diwrnod ar ôl y dyddiad y bernir bod ad-daliad cyntaf y benthyciwr ar ei fenthyciad wedi cael ei dderbyn naill ai gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi neu gan Weinidogion Cymru, pa un bynnag y bernir iddo gael ei dderbyn gyntaf (yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998(5));

mae i'r ymadrodd “y Dyddiad Bodloni” (“the Satisfaction Date”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 9;

mae “Gweinidogion Cymru” (“Welsh Ministers”) yn cynnwys unrhyw berson y mae Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu wedi dirprwyo eu swyddogaethau iddo o dan adran 23 o Ddeddf 1998 neu unrhyw berson y maent wedi trosglwyddo eu hawliau iddo o dan adran 9 o Ddeddf 2008; ac

mae i'r ymadrodd “y Swm Penodedig” (“the Specified Amount”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 6.

Y cymhwyster ar gyfer dileu

4.  Mae benthyciwr yn gymwys i gael y Swm Penodedig o'i Atebolrwydd sydd heb ei Dalu wedi ei ddileu o dan yr amgylchiadau a nodir yn rheoliad 5 (“yr Amgylchiadau”).

Yr Amgylchiadau

5.  Yr Amgylchiadau at ddibenion rheoliad 4 yw—

(1bod y benthyciwr wedi cael benthyciad at gostau byw; a

(2bod Gweinidogion Cymru o'r farn, o ran y benthyciwr ar y Dyddiad Ad-dalu—

(a)nad yw wedi torri unrhyw rwymedigaeth a geir mewn unrhyw gytundeb ar gyfer benthyciad myfyriwr neu mewn unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 22 o Ddeddf 1998; a

(b)nad oes ganddo gosbau, costau, treuliau neu ffioedd sydd heb eu talu mewn perthynas ag unrhyw fenthyciad o'r fath o dan unrhyw gytundeb neu reoliadau o'r fath; ac

(c)nad yw wedi cael unrhyw o'i atebolrwydd i dalu mewn perthynas â benthyciad a gafwyd gan Weinidogion Cymru wedi ei ddileu o dan ddarpariaethau Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2010(6) neu Reoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2011(7).

Y Swm Penodedig

6.  Y Swm Penodedig ar gyfer dileu y mae rheoliad 4 yn cyfeirio ato yw'r swm lleiaf o'r canlynol—

(1£1,500;

(2yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu.

Yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu

7.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu yw'r cyfanswm y bernir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr ar y Dyddiad Ad-dalu mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad at gostau byw, ond nid yw'n cynnwys unrhyw log sydd wedi cronni ar y benthyciad hwnnw nac unrhyw gosbau, costau, treuliau neu ffioedd yr aed iddynt mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad o'r fath.

(2At ddibenion rheoliad 9, yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu yw'r cyfanswm y bernir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr ar y Dyddiad Bodloni mewn perthynas ag unrhyw fenthyciad at gostau byw, ond nid yw'n cynnwys unrhyw log sydd wedi cronni ar y benthyciad hwnnw, nac unrhyw gosbau, costau, treuliau neu ffioedd yr aed iddynt mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad o'r fath.

(3At ddibenion cyfrifo'r Atebolrwydd sydd heb ei Dalu ym mharagraffau (1) a (2), cyfrifir y swm y bernir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr yn unol â'r rheoliadau a wnaed yn unol ag adran 22 o Ddeddf 1998(8).

Dileu

8.  Yn yr Amgylchiadau yn rheoliad 5, rhaid i Weinidogion Cymru ddileu'r Swm Penodedig gydag effaith o'r Dyddiad Ad-dalu.

9.  Os oes unrhyw un neu ragor o'r Amgylchiadau yn rheoliad 5(2) heb ei fodloni neu eu bodloni ar y Dyddiad Ad-dalu, ond ei fod yn cael ei fodloni neu eu bod yn cael eu bodloni ar ddyddiad diweddarach, caiff Gweinidogion Cymru ddileu'r Swm Penodedig gydag effaith o'r dyddiad y cafodd yr Amgylchiadau eu bodloni yn eu barn hwy (“y Dyddiad Bodloni”).

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

12 Mehefin 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn llywodraethu atebolrwydd dros fenthyciad myfyriwr sydd gan fyfyrwyr sy'n cael benthyciadau at gostau byw gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd 2012/2013.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dileu hyd at £1,500 o atebolrwydd pob benthyciwr am fenthyciad at gostau byw mewn amgylchiadau penodol, gydag effaith o'r diwrnod ar ôl y dyddiad y bernir bod ei ad-daliad cyntaf ar ei fenthyciad wedi ei dderbyn.

(1)

1998 p.30; diwygiwyd adran 22 gan adran 146 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21) ac Atodlen 11 iddi, adran 722 o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p.1) ac Atodlen 6 iddi, adran 147 o Ddeddf Cyllid 2003 (p.14), adrannau 42 a 43 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p.8) ac Atodlen 7 iddi, adran 257 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22) ac adran 76 o Ddeddf Addysg 2011 (p. 21).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c), (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5)) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p.8) ac O.S. 2005/1833 (Cy.149) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/1660 (Cy.159)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 iddi.

(3)

Mae Gweinidogion Cymru yn talu benthyciadau at gostau byw mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2012/2013 yn unol â Rhan 6 o Reoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2011 (O.S. 2011/886 (Cy.130)) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2011/1978 (Cy. 218) ac O.S. 2012/14 (Cy. 5).

(5)

Ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn, penderfynir ar y dyddiad y bernir bod ad-daliad benthyciwr wedi ei dderbyn yn unol â rheoliad 17 o Reoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 (O.S. 2009/470) fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2010/661, O.S. 2010/1010, O.S. 2011/784 ac O.S. 2012/836.

(8)

Ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn penderfynir ar y swm y bernir bod benthyciwr wedi ei ad-dalu ac felly'r swm y bernir ei fod yn dal yn daladwy yn unol ag O.S. 2009/470, fel y'i diwygiwyd. Gweler yn arbennig reoliadau 17, 29, 44 a 76.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources